Thomas Fillis

Graddiodd Thomas gyda BSC (Econ) mewn Astudiaethau Ewropeaidd ac Almaeneg yn 2011. Mae bellach yn gweithio gyda'r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel.

Beth yw eich atgofion pennaf am eich cyfnod yn Aber?

Boreau/prynhawniau yn gweithio yn Llyfrgell Hugh Owen, yna cymdeithasu yn yr Undeb ar ôl cwblhau’r gwaith a’r aseiniadau. Cerdded ar hyd glan y môr, barbeciws ar Draethau’r Gogledd a’r De; treulio amser gyda ffrindiau yn y caffis, bwytai, bariau, tafarndai a chlybiau neu gynnal digwyddiadau cymdeithasol; darlithoedd yn "Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol" a darllen Almaeneg ar y traeth ar ddyddiau heulog; tripiau undydd i'r Amwythig neu Aberaeron; ymuno â thimau chwaraeon y Brifysgol a digwyddiadau fel ‘super-teams’; bod yn rhan o sefydliadau fel Canolfan Astudiaethau Ewropeaidd Aberystwyth; cwrdd â phobl o'r un anian; mwynhau diogelwch, llonyddwch ac awyrgylch rhyddfrydol Aber. 

Beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn eich gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi bod o gymorth ichi?

Ar ôl gweithio i sefydliad di-elw ym maes diplomyddiaeth yn ninas Berlin am y flwyddyn gyntaf ar ôl graddio, rydw i ar fin cwblhau gradd MA mewn Materion Cyhoeddus Ewropeaidd ym Mhrifysgol Maastricht ac mewn pythefnos byddaf yn ddechrau interniaeth gyflogedig ym Mrwsel yn gweithio ym maes materion yr Undeb Ewropeaidd. Llwyddais i gyrraedd y fan hon yn fy ngyrfa gyda chymorth adrannau academaidd a staff ardderchog Aber. Yn ystod fy nghyfnod yn Aber fe wnes fagu’r hyder i siarad yn gyhoeddus, i ymdrin ag ieithoedd eraill, gweithio mewn sefyllfaoedd oedd yn gofyn am sawl iaith, paratoi papurau ymchwil a dogfennau hir fel traethawd hir yn y flwyddyn olaf. Ni fyddwn wedi cael fy nghyflogi gan swyddfa ryngwladol yn ninas Berlin heb hyn. Rhoddodd Aber i fi hefyd yr awydd i ddysgu ac o ganlyniad penderfynais astudio am radd MA. Fyddwn i ddim lle’r ydw i heb Aber. 

Pa gyngor roddech chi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?

Mwynhewch bob eiliad ohono, oherwydd mae’n diflannu mewn fflach. Peidiwch â dychryn o gael aseiniadau iaith anodd neu o weld hyd traethawd hir ond mwynhewch yr her a’r profiadau sydd ynghlwm wrth raglen gradd baglor. Gwnewch yn fawr o adnoddau prifysgol o'r radd flaenaf a mwynhewch gyfeillgarwch y staff. Ar nodyn ehangach, dangoswch gariad at y lle sy'n parhau i garu a phan ddaw’r amser i adael, defnyddiwch y sgiliau a'r cymeriad rydych chi wedi'i feithrin yn ystod eich amser yn Aber i ddal ati a chael profiadau anhygoel.