Wyn Jones

Graddiodd Wyn Jones o Aber gyda BSc mewn Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid yn 2013. Mae Wyn yn chwaraewr rygbi proffesiynol ac yn aelod o dîm Rygbi’r Scarlets.

Beth ydych chi'n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Mwynheais fy amser yn Aber yn fawr, yn arbennig y flwyddyn gyntaf yn byw ym Mhantycelyn. Roedd hi’n bwysig iawn i mi fy mod yn cadw at fy ngwreiddiau ac yn ymgolli yn y diwylliant Cymreig. Roedd hi hefyd yn grêt cyfarfod â phobl newydd.  

Beth ydych chi'n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut helpodd eich gradd o Aberystwyth?

Ar hyn o bryd rwy’n chwaraewr rygbi amser-llawn gyda’r Scarlets. Rwyf wedi bod yn rhan o’r sgwad ers mis Tachwedd 2013 ac wedi cael cytundeb datblygu ar gyfer tymor newydd 2014-15. Roedd astudio yn Aberystwyth yn gyfle i ddatblygu sgiliau newydd ac er nad wyf yn defnyddio fy ngradd mewn Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid ar hyn o bryd, byddaf yn rhoi’r sgiliau hynny ar waith ar ôl ymddeol o fyd rygbi a dychwelyd adref i redeg busnes ffermio’r teulu.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?

Y peth pwysig i mi oedd mwynhau fy amser yn Aber. Credaf ei bod hi’n bwysig bod pobl yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle, yn mwynhau bywyd myfyriwr ac yn manteisio ar unrhyw brofiadau newydd. Mae Aber yn lle da i astudio.