Andrew Jones

Enillodd Andrew Jones radd Hanes a Hanes Cymru yn 1985. Yn ogystal â gyrfa lwyddiannus, Andrew yw llysgennad answyddogol Aber yn Singapôr ac mae e’n barod i helpu alumnus Aber i ymsefydlu a/neu fasnachu yno. Cysylltwch ag ef: singapore@alumni.aber.ac.uk

Beth rydych chi’n ei gofio’n bennaf am eich cyfnod yn Aber?

Roeddwn wrth fy modd â’r siwrnai hardd ar draws canolbarth Cymru ar ddechrau pob tymor, daearyddiaeth ddramatig Aber a’r tywydd! Cofiaf fisoedd academaidd gwyntog, gaeafol a gwlyb, o ddringo Rhiw Penglais yn nhywyllwch y bore i grwydro o amgylch y tafarndai gyda’r nos. Roedd maint a phellter Aber o’r ‘byd go-iawn’ yn sicrhau agosatrwydd a chymuned lle roedd hi’n hawdd gwneud ffrindiau.

Roedd yno awyrgylch gwych ar gyfer astudio Hanes, a’r Llyfrgell Genedlaethol yn ei gwneud hi’n brofiad diguro. Dyma’r atgofion gorau: prynhawiau hir yn edrych ar baentiadau yn ystafell seminar Edmund Fryde, a gwrando ar Brian Howells yn ymddifyrru yn y rhestrau a oedd wedi’u hatodi i ewyllysiau’r Tuduriaid.

Wrth edrych yn ôl rwy’n gwerthfawrogi’r rhyddid i ddarllen ac archwilio safbwyntiau newydd.

Beth rydych chi’n ei wneud nawr o ran eich gyrfa a sut gwnaeth eich Gradd o Aberystwyth eich helpu?

Rwy’n Rheolwr-Gyfarwyddwr  Global Technology & Operations yn Deutsche Bank AG, yn Singapôr. Diolch i’r Gwasanaeth Gyrfaoedd, mi wneuthum ddarganfod gwaith gwirfoddol wrth astudio yn Aber ac, ar ôl imi adael, mi arhosais gyda CAB tan imi benderfynu beth i’w wneud. Cefais addysg sylfaenol ym maes technoleg yn Exxon, cyn gwneud gwaith ymgynghori a symud i faes Adnoddau Dynol. Ers 1992 rwy’n byw yn Asia ac wedi dal swyddi Adnoddau Dynol, Technoleg Gwybodaeth a Gweithrediadau. Ers 1998, rwyf wedi dal sawl swydd yn Deutsche Bank. Rwyf bellach yn arwain y rhaglen Trawsffurfio Adnoddau Dynol Fyd-eang.

Astudiais Hanes oherwydd fy nghariad at y pwnc, ond nawr gallaf weld sut y gwnaeth fy helpu yn broffesiynol. Rhoddodd Hanes imi ymwybyddiaeth o wahanol ddiwylliannau a’m dysgu i werthfawrogi bod pawb yn meddwl yn wahanol, sydd wedi bod o gymorth wrth reoli ar draws diwylliannau. Rwy’n gwerthfawrogi’r hyfforddiant sylfaenol yng nghywirdeb deallusol a’r gallu i ffurfio a mynegi fy marn fy hun o wahanol ddeunyddiau.

Roedd yr elfen Hanesyddiaeth sylweddol yn arbennig o ddefnyddiol. Rwy’n gwerthfawrogi’r sgiliau meddwl beirniadol i ddadadeiladu safbwyntiau, a phrofi ar gyfer achos ac effaith. Mae rheoli newid yn rhan enfawr o’r hyn rwy’n ei wneud; ac mae Hanes yn gyfoeth o archdeipiau Rheoli Newid sy’n dangos beth all fynd o’i le a sut y cafodd newid ei ddogfennu, ei hyrwyddo a’i fwrw oddi ar y cledrau.

Mae’r cariad a’r diddordeb yn Hanes Celf a astudiais ac ysgrifennu traethawd estynedig arno wedi aros gyda mi hyd heddiw.

Pa gyngor fyddai gennych i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs chi nawr?

Dilynwch yr hyn rydych chi’n teimlo’n angerddol tuag ato, arbrofwch â gwahanol safbwyntiau a mentrwch. Chewch chi ddim y cyfle hwn eto, felly profwch bob agwedd ohono 100% - mentrwch oddi ar y rhestr ddarllen; chwiliwch am bobl sy’n wahanol iawn i chi; cymerwch anadl ddofn a mynegwch eich syniadau eich hun. Po fwyaf y gwrandewch a darllen, po fwyaf y byddwch yn eich deall eich hun.