Andy McDonald

Enillodd Andy McDonald radd Daearyddiaeth yn 1972. Yn ogystal â gyrfa lwyddiannus, Andy yw llysgennad answyddogol Aber yn nwyrain UDA ac mae e’n barod i helpu alumnus Aber i ymsefydlu a/neu fasnachu yno. Cysylltwch ag ef: usa-east@alumni.aber.ac.uk

Beth rydych chi’n ei gofio’n bennaf am eich cyfnod yn Aber?

Fel yn achos yr holl brofiadau mwyaf boddhaol mewn bywyd, yr hyn a gofiaf yn bennaf yw’r ffrindiau a wneuthum yn Aber. Daeth y rhan fwyaf o’r rhain oherwydd fy niddordeb yn chwaraeon, neu yn fy achos i – pêl-droed. Roedd canfod bod gennyf gymaint yn gyffredin â phobl o wahanol gefndiroedd yn brofiad dysg go-iawn i mi ac yn gymorth i mi wir ehangu fy ngorwelion. Dyma, mae’n debyg, a roddodd yr hyder imi fod yn barod i dderbyn cyfleoedd newydd ac i fod yn fodlon symud. Ar ôl cael fy magu mewn tref fechan yn Swydd Efrog, euthum i weithio yn Llundain, teithio’n helaeth yn Ewrop a’r Dwyrain Canol a mudo yn y pen draw i Efrog Newydd.                                             

Beth rydych chi’n ei wneud nawr o ran eich gyrfa a sut gwnaeth gradd o Aberystwyth eich helpu?

Ar ôl ennill gradd Daearyddiaeth (a Gradd Meistr yn Hydroleg), chafodd neb fwy o syndod na mi i gael swydd ym myd bancio! Mae’n debyg mai canran o’r wybodaeth a’r uchelgais gyrfa sydd gan y myfyriwr israddedig cyffredin bellach oedd gennyf i bryd hynny, ond drwy lwc, roeddwn wrth fy modd â’r proffesiwn y gwneuthum ei ddarganfod drwy ddamwain.                    
Ar ôl sawl blwyddyn yn gweithio ym myd bancio rhyngwladol, bachais y cyfle i symud i fancio preifat. Rwyf bellach yn rheoli busnes bancio preifat Efrog Newydd a Lloegr Newydd ar gyfer un o fanciau mawr U.D.A. Rwyf wrth fy modd yn y busnes; mae’n gyflym, yn newid yn gyson ac mae’r cleientiaid mor amrywiol fel bod gan bob diwrnod rywbeth newydd i’w gynnig.

Efallai nad yw hi’n amlwg sut y gwnaeth fy ngradd fy helpu o ran fy ngyrfa, ond roedd fy nghefndir gwyddonol yn brofiad dysg gwych i mi. Cefais ddisgyblaeth ohono, sylfaen ar gyfer ymchwil a chwilio am ffeithiau a chred i ddadansoddi a brofodd yn amhrisiadwy.

Pa gyngor fyddai gennych ar gyfer myfyriwr sy’n dilyn eich cwrs chi nawr?

Mae byd cyfleoedd gyrfa wedi newid yn llwyr ers imi raddio; yn fy nghyfnod i, byddai cyflogwyr yn chwilio am berson graddedig mwy cyffredinol na rhywun a hyfforddwyd mewn rhyw fusnes penodol. Mae’r byd bellach yn fwy arbenigol ond rwyf o’r farn o hyd y dylai myfyrwyr coleg astudio beth bynnag y mae ganddynt ddiddordeb academaidd ynddo. Mae’r coleg yn amser i ymestyn eich deallusrwydd – ym mha bynnag gyfeiriad a ddewiswch. Bydd eich gwahanol brofiadau yn y brifysgol yn eich arwain yn raddol tuag at eich meysydd diddordeb naturiol ac at y meysydd sy’n cyd-fynd yn naturiol â’ch doniau. Peidiwch â phoeni cymaint am eich gyrfa; dilynwch eich diddordebau.