Arnold Spruit

Enillodd Arnold Spruit radd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Aber yn 1994. Yn ogystal â gyrfa lwyddiannus, Arnold yw llysgennad answyddogol Aber yn Luxembourg, ac mae e’n barod i helpu alumnus Aber i ymsefydlu a/neu fasnachu yno. Cysylltwch ag ef: luxembourg@alumni.aber.ac.uk

Beth rydych chi’n ei gofio’n bennaf am eich cyfnod yn Aber?

Mae gennyf nifer o atgofion hoffus o Aberystwyth yn arbennig cerdded i fyny’r rhiw bob dydd, y môr a’r bywyd tu allan y  gellid dod i’w adnabod a’i fwynhau mor rhwydd. Roedd clwb snwcer y pier yn hoff le yn enwedig yn ystod stormydd i dreulio ychydig oriau yn chwarae snwcer neu’n gwylio chwaraeon.

Beth rydych chi’n ei wneud nawr o ran eich gyrfa a sut gwnaeth eich Gradd o Aberystwyth eich helpu?

Rwyf yn Annibynnol Cwmni a Chronfa Annibynnol ac enillais radd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’m helpodd i gael darlun ehangach o’r bygythion a’r cyfleoedd sy’n ein hwynebu ni, fy nghleientiaid a’r diwydiannau y mae nhw’n rhan ohonynt. Mi wnaeth y ‘gêmau’ a gynhaliwyd bob blwyddyn fy helpu i feithrin y gallu i weld sut y byddai datblygiadau posibl yn y dyfodol yn effeithio ar gynlluniau busnes arfaethedig, cryfderau a gwendidau’r model gweithredol busnes cyfredol. Mi wnaeth astudio mewn prifysgol ddwyieithog fy mharatoi ar gyfer gweithio mewn llefydd amlddiwylliannol a’r heriau a ddaw yn sgil hynny.

Pa gyngor fyddai gennych i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs chi nawr?

Mae’n bosibl fod Gwleidyddiaeth Ryngwladol hyd yn oed yn fwy perthnasol heddiw nag erioed. Daw ystod penderfyniadau gweithrediadau posibl Actorion Byd-eang yn haws i’w diffinio o’u cyfuno â gwell dealltwriaeth o economeg, demograffeg, a heriau amgylcheddol sy’n wynebu pob Gwlad a’u harferion diwylliannol gwahanol.