Bozok Yucel
Graddiodd Bozok o Brifysgol Aberystwyth yn 2010 gyda gradd MSc (Econ) mewn Terfysgaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae Bozok nawr yn gweithredu fel llysgennad answyddogol Aber yn Nhwrci ac mae’n fodlon cynorthwyo unrhyw gyn-fyfyrwyr o Aber i ymsefydlu a/neu drafod busnes yno. Gallwch gysylltu ag ef yn turkey@alumni.aber.ac.uk
Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Roeddwn wedi dymuno astudio yn y Deyrnas Unedig erioed oherwydd fy mod wastad wedi credu mai Prydain sy’n cynnig yr addysg gorau yn y byd. Cyn i mi benderfynu gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, siaradais â rhai o fy ffrindiau a oedd eisoes yn astudio yn Llundain, ac yn ei chael yn dipyn o straen byw mewn lle mor boblog. Gan i mi fyw mewn dinas am dros 20 mlynedd, roeddwn am dreulio ychydig o amser yng nghefn gwlad. Ond roeddwn hefyd yn chwilio am brifysgol a chanddi hanes a thraddodiad, ac yn rhagori mewn gwleidyddiaeth; roeddwn am astudio cysylltiadau rhyngwladol â ffocws ar derfysgaeth. Roedd Aberystwyth yn ateb y gofynion hyn i gyd. Treuliais flwyddyn gwirioneddol wych yn Aber, gan gyfarfod â llawer o bobl hyfryd, gwneud llawer o ffrindiau da a chael dysgu cymaint gan academyddion adnabyddus, megis; Dr Jeroen Gunning, Alastair Finlan, Ayla Gol a Gerry Hughes - rwy’n dragwyddol ddiolchgar i bob un ohonynt am fy nysgu sut i feddwl. Ni waeth pa mor hen yr af, ni fyddaf byth yn anghofio fy nghyfeillion, y wiwerod ym mrigau’r coed yn PJM, y trigolion lleol hynod gyfeillgar, darlithoedd ardderchog yn adeilad chwedlonol yr Hen Goleg, ac ysbryd Syr Ellis Griffiths wrth fy ymyl yn yr arholiadau.
Beth yw eich gyrfa nawr, a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu?
Ar ôl gwneud fy ngradd bum yn gweithio am flwyddyn i Luoedd Arfog Twrci, lle profodd fy ngradd mewn Astudiaethau Terfysgaeth yn ddefnyddiol iawn. Erbyn hyn rwy’n gobeithio gweithio gyda chwmni marchnata yn Llundain ac, os byddaf yn llwyddiannus, symud i fyw yno am nifer o flynyddoedd. Galluogodd y ffaith i mi astudio yn Aberystwyth imi gael swydd yn Lluoedd Arfog Twrci yn syth ar ôl graddio. Rwy’n hynod falch o gael bod yn gyn-fyfyriwr o Aberystwyth.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n gwneud eich cwrs chi nawr?
Ni waeth beth rydych am ei astudio, dewiswch Aberystwyth gan fod y brifysgol yn haeddu pob math o ganmoliaeth am y cyfleoedd academaidd a chymdeithasol rhagorol mae’n eu cynnig. Astudiwch yn galed yn ystod yr wythnos, chwaraewch yn galed ar y penwythnos; gwnewch y gorau o’ch bywyd fel myfyriwr yn Aber oherwydd rhyw ddydd byddwch yn ymadael, a bydd y brifysgol brydferth hon ond megis atgof melys.