Florence Fraisse

Enillodd Florence Fraisse radd Gwyddor Ceffylau o Aber yn 2001 cyn astudio ar gyfer Diploma Uwchraddedig. Yn ogystal â gyrfa lwyddiannus, Florence yw llysgennad answyddogol Aber yn Ffrainc ac mae hi’n barod i helpu alumnus Aber i ymsefydlu a/neu fasnachu yno. Cysylltwch â hi: france@alumni.aber.ac.uk

Beth rydych chi’n ei gofio’n bennaf am eich cyfnod yn Aber?

Roedd lleoliad Aberystwyth yn ardderchog gan ei fod mor agos i’r môr – atgofion bythgofiadwy am fynd am dro ar lan y môr. Roeddwn i’n astudio ar gampws Llanbadarn (y campws amaethyddol) ac felly hyd yn oed yn fwy agos i gefn gwlad. Roedd yn lle heddychlon ac yn dda ar gyfer ymlacio. Cân yr adar ar fore braf: dechrau delfrydol i’r dydd. Mae Llanbadarn wedi’i lleoli ar fryn a byddwn i’n cadw’n heini wrth feicio yno.

Roedd ymuno â chlybiau a chymdeithasau myfyrwyr yn brofiad gwych ar gyfer cymdeithasu – y clwb rygbi a’r undeb myfyrwyr gwirfoddol o’m rhan i. Rwy’n cofio hefyd y gystadleuaeth chwaraeon ar ddiwedd y flwyddyn yn cynnwys holl glybiau chwaraeon Aber – her go-iawn.

Beth rydych chi’n ei wneud nawr o ran eich gyrfa a sut gwnaeth eich Gradd o Aberystwyth eich helpu?

Astudiais wyddor anifeiliaid yn Aber (BSc Anrhydedd) (a Diploma Uwchraddedig yn Iechyd Anifeiliaid). Euthum wedyn i Seland Newydd i wneud peth gwaith ymchwil sylfaenol ar ieir a cheffylau cyn dychwelyd i Ffrainc. Ers hynny, rwy’n gweithio i gwmni fferyllol milfeddygol yn yr adran Ymchwil a Datblygu. Mae’r radd a enillais o Aber yn llawer mwy arbenigol ym mhob agwedd ar wyddor anifeiliaid na’r hyn fyddwn wedi ei dderbyn mewn diploma yn Ffrainc. Mae aryneilio dosbarthiadau damcaniaethol ac ymarferol yn sicrhau cefndir cryf o ran gwybodaeth i chi. Cefais fy swydd bresennol oherwydd yr arbenigedd hwn a’m gallu i siarad Saesneg.

Pa gyngor fyddai gennych i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs chi nawr?

Mwynhewch eich amser yn Aber? Mae’r amodau yn wych i’ch helpu i lwyddo yn eich astudiaethau. Rheolwch eich amser yn iawn, a dewch o hyd i gydbwysedd da rhwng cymdeithasu a chanolbwyntio ar astudio. Dewiswch y pynciau y mae gennych y diddordeb mwyaf ynddynt – mae cymhelliant yn dylanwadu ar lwyddiant. Mae Aber yn ffodus fod ganddi lyfrgell ragorol ar y campws, ac amrywiaeth eang o gyfnodolion a llyfrau ar gael yno, felly gwnewch ffrind ohoni.