Herman Foss
Enillodd Herman Foss radd mewn Gweinyddiaeth Busnes o Aber yn 1993. Yn ogystal â gyrfa lwyddiannus, Herman yw llysgennad answyddogol Aber yn Norwy ac mae e’n barod i helpu alumnus Aber i ymsefydlu a/neu fasnachu yno. Cysylltwch ag ef: norway@alumni.aber.ac.uk
Beth rydych chi’n ei gofio’n bennaf am eich cyfnod yn Aber?
O ran yr addysg, rwy’n cofio’r awyrgylch ymlaciol a fyddai’n gwneud canolbwyntio’n hawdd yn y darlithfeydd, a phori drwy’r silffoedd llyfrau a’r tomenni o lyfrau yn y llyfrgell. Hefyd, yr agweddau cymdeithasol wrth ymuno â chlybiau a chymdeithasau myfyrwyr – Hoci a RocSoc o’m rhan i – nofio a chwarae sboncen, bywyd myfyrwyr mewn fflat a meithrin sawl cyfeillgarwch oesol trawsffiniol, glan-y-môr, siopau llyfrau ail-law yn y dref, Andy’s Records, a Heron Music (lle prynais sawl offeryn yn ystod fy nhair blynedd yn Aber).
Beth rydych chi’n ei wneud nawr o ran eich gyrfa a sut gwnaeth eich Gradd o Aberystwyth eich helpu?
Ers 1994, rwy’n gweithio yn TONO, cymdeithas hawliau perfformio Norwy, a mwy na 10 mlynedd o’r blynyddoedd hynny ar wasanaethau cerddoriaeth ar lein. Rwyf hefyd yn weithgar iawn ym Mhlaid Datblygu Norwy [Norwegian Progress Party] (sy’n rhyddfrydol yn yr ystyr Ewropeaidd). Mae ehangder addysg prifysgol o Aber yn astudio cyfraith busnes, marchnata rhyngwladol, economeg, gwleidyddiaeth, athroniaeth a sawl pwnc arall wedi cyfrannu at lwyfan cadarn ar gyfer fy ngwaith yn y busnes hawliau cerddoriaeth a’m gwaith gwleidyddol.
Pa gyngor fyddai gennych i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs chi nawr?
Wrth ddewis eich pynciau, ceisiwch astudio’r hyn fydd ei angen arnoch, yr hyn a ddymunwch a’r hyn nad ydych yn gwybod a fyddwch eu hangen neu yn eu dymuno. Gwrandewch ar gyngor ond mentrwch hefyd wneud dewisiadau annisgwyl eich hun. Mwynhewch y profiad o ddysgu gan wybod bod yr holl wybodaeth a’r profiad o lwyddo a methu drwy gydol eich amser yn Aber yn werthfawr. Peidiwch â bod ofn.
Enillodd Simon Morgan radd Hanes a Hanes Cymru yn 1985. Yn ogystal â gyrfa lwyddiannus, Simon yw llysgennad answyddogol Aber yn Rwsia ac mae e’n barod i helpu alumnus Aber i ymsefydlu a/neu fasnachu yno. Cysylltwch ag ef: russia@alumni.aber.ac.uk