Mario Campoy Siller

Enillodd Mario Pablo Campoy Siller radd MBA o Aber yn 2010. Yn ogystal â gyrfa lwyddiannus, mae Mario hefyd yn llysgennad answyddogol Aber ym Mecsico ac mae’n barod i helpu alumnus Aber i ymsefydlu a/neu fasnachu yno. Cysylltwch ag ef:  mexico@alumni.aber.ac.uk

Beth rydych chi’n ei gofio’n bennaf am eich cyfnod yn Aber?

Ansawdd y bywyd y mwynheais yn Aber fel myfyriwr uwchraddedig. Mae popeth i weld mor syml yno ac roedd yn awyrgylch ymlaciol i ganolbwyntio ar f’astudiaethau yn ogystal â mwynhau’r bywyd cymdeithasol lleol.            

Beth rydych chi’n ei wneud nawr o ran eich gyrfa a sut gwnaeth eich Gradd o Aberystwyth eich helpu?

Ers imi ddychwelyd o Aber, gofynnwyd imi ymuno â chwmni Datblygu Eiddo Tiriog yng Ngogledd Mecsico. Mae pencadlys y cwmni yn Miami, Flordia. Rwyf hefyd wedi dechrau fy nghwmni meddalwedd ar-alw fy hun (www.clarensyst.com.mx ) sy’n cynorthwyo Busnesau Bychain a Chanolig i wella eu sgiliau er mwyn goroesi ym marchnad gystadleuol iawn Gogledd Mecsico. Fe wnaeth y cwrs MBA yn Aber fy nghynorthwyo i gysylltu fy nghefndir technegol blaenorol â’m sgiliau busnes cyfredol a’r wybodaeth yr oedd ei hangen i sefydlu fy menter entrepreneuraidd fy hun.

Pa gyngor fyddai gennych i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs chi nawr?

Fy awgrym ar gyfer unrhyw un sy’n astudio neu sy’n ystyried dilyn y rhaglen MBA yn Aber fyddai i gadw eu llygaid a’u meddwl yn gwbl agored – dylent gymryd yr amser hwn i ystyried pa lwybr y byddant yn ei ddilyn yn eu bywyd proffesiynol yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn eu hannog i wneud cysylltiadau a ffrindiau ymhlith eu cyfoedion er mwyn creu rhwydwaith pwerus a allai fod o gymorth yn y dyfodol.