Viktor Papatheodorou
Enillodd Viktor Papatheodorou radd yn y Gyfraith yn 2001. Yn ogystal â gyrfa lwyddiannus, Viktor yw llysgennad answyddogol Aber yng ngwlad Groeg ac mae e’n barod i helpu alumnus Aber i ymsefydlu a/neu fasnachu yno. Cysylltwch ag ef: greece@alumni.aber.ac.uk
Beth rydych chi’n ei gofio’n bennaf am eich cyfnod yn Aber?
Yn ystod y tair blynedd y bûm yn byw yn Aber, cefais brofiadau ac atgofion na fyddaf byth yn eu hanghofio. Cwrddais â fy ngwraig, meithrin cyfeillgarwch parhaol â phobl o bob cwr o’r byd, cerdded ar lan y môr a mwynhau sawl coffi yn yr “Undeb”. Rwy’n cofio’r nosweithiau anodd cyn yr arholiadau yn rhannu’r pryder â’m ffrindiau a’m cyd-fyfyrwyr, ond roedd hi’n werth pob dim yn y diwedd. Amgylchfyd rhagorol i fyfyrwyr, gyda chefnogaeth staff academaidd profiadol a pharod iawn i helpu a thref brydferth.
Beth rydych chi’n ei wneud nawr o ran eich gyrfa a sut gwnaeth eich Gradd o Aberystwyth eich helpu?
Ar hyn o bryd, rwy’n gyfreithiwr yn Athen, ac yn bartner yn Swyddfa Gyfreithiol Viktor Papatheodorou a’i Bartneriaid yng nghanol y ddinas. Er fy mod i bellach yn gweithio yn ôl system gyfreithiol cyfraith sifil Groeg, mi wnaeth astudio’r Gyfraith yn Aberystwyth fy nghynorthwyo i fabwysiadu’r broses gywir sydd ei hangen i ddadansoddi pynciau cyfreithiol a dysgu egwyddorion sylfaenol proffesiwn y gyfraith i mi. Roedd athrawon, darlithwyr a thiwtoriaid Adran y Gyfraith bob amser yn gefnogol i fyfyrwyr y Gyfraith ac yn agored i drafod â nhw. Ar ôl graddio o Aber, dilynais radd Meistr yn Llundain (UCL), gan ddefnyddio’r holl wybodaeth a phrofiad a enillais yn ystod fy ngradd gyntaf yn Aber. Mae llwyddo ym mhroffesiwn y gyfraith yn dibynnu ar y sylfeini cadarn y mae myfyriwr y gyfraith yn eu cael yn ystod ei (h)astudiaethau ac mae Adran y Gyfraith yn Aberystwyth wedi’i chyfeirio’n llwyddiannus tuag at y nod hwn o sicrhau bod gan ei myfyrwyr gefndir cadarn o ran gwybodaeth gyfreithiol, ac mae’r cefndir hwn gyda dyn drwy gydol ei yrfa.
Pa gyngor fyddai gennych i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs chi nawr?
O ystyried bod gradd yn y gyfraith yn golygu’n bennaf ymdriniaeth a dadansoddiad damcaniaethol o ddeddfwriaeth berthnasol a chyfraith achosion, dylai myfyriwr y gyfraith ehangu ei (g)wybodaeth drwy ddarllen cynifer â phosibl o’r Cyfnodolion ac Adolygiadau perthnasol sydd ar gael iddo/iddi drwy’r Llyfrgell. Ymdriniaeth sylfaenol yn unig â phob pwnc cyfreithiol a welir yn y gwerslyfrau, ond fe sicrheir dealltwriaeth ehangach o faterion cyfreithiol drwy ddarllen ffynonellau cyfreithiol eraill yn gyson. Er hynny, yr hyn sydd bwysicaf i gyfreithiwr wrth ymdrin â chwestiynau cyfreithiol yw peidio â gwybod yr holl atebion ar unwaith ond gwybod yn hytrach ble a sut i chwilio amdanynt.