Ricardo Espirito Santo

Graddiodd Ricardo o Aber gyda gradd mewn Cyfrifiadureg y Rhyngrwyd yn 2006. Yn ogystal â’i yrfa lwyddiannus, mae Ricardo hefyd yn gweithredu fel llysgennad answyddogol Aber ym Mhortiwgal ac mae’n fodlon cynorthwyo unrhyw gyn-fyfyrwyr o Aber i ymsefydlu a/neu gwneud busnes yno.  Cysylltwch ag ef yn portugal@aber.ac.uk

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?
Yn ystod fy astudiaethau rwy’n cofio bod gan Aber ddigonedd o adnoddau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr. Roedd y llyfrgelloedd yn hynod ddiddorol a chynhwysfawr, ag amgylchedd gweithio ardderchog ym mhobman.

O ran cymdeithasu rwy’n cofio awyrgylch bywiog bywyd nos Aber, ei chymdeithasau a’i chlybiau megis y clwb dringo a’r gymdeithas gyfrifiadureg, a’r partïon rheolaidd ym mhobman.

Fy hoff atgofion o Aber yw glan y môr a cherdded ar y tywod a’r creigiau ar y traeth.

Beth yw eich gyrfa nawr, a sut mae eich gradd Aber wedi helpu?
Rwyf wedi bod yn datblygu fy ngyrfa fel datblygwr meddalwedd ym Mhortiwgal ers cyn i mi orffen fy ngradd. Bu addysg Aberystwyth yn amhrisiadwy wrth fy mharatoi i wynebu heriau bywyd bob dydd, a rhoi gafael ardderchog i mi o’r maes.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n gwneud eich cwrs chi nawr?
Manteisiwch ar yr hyn sydd gan Aber i’w gynnig a bydd eich profiad yn rhagori ar eich disgwyliadau yn gyson. Mwynhewch eich gradd cymaint â phosib. Wrth ddewis eich modiwlau gwnewch yn siŵr eich bod yn cydbwyso’r hyn y dylech ei wneud â’r hyn rydych chi’n gallu ei wneud.

Gwnewch ffrindiau da, cadwch nhw am oes, teithiwch a dysgwch.