Chris Skirrow
Enillodd Chris Skirrow radd mewn Botaneg yn 1975. Yn ogystal â gyrfa lwyddiannus, Chris yw llysgennad answyddogol Aber yn Y Weriniaeth Tsiec ac mae e’n barod i helpu alumnus Aber i ymsefydlu a/neu fasnachu yno. Cysylltwch ag ef: czech@alumni.aber.ac.uk
Beth rydych chi’n ei gofio’n bennaf am eich cyfnod yn Aber?
Un o’r atgofion pennaf yw’r ymdeimlad cryf o gymuned. Mae nifer o’r ffrindiau a wneuthum bryd hynny gennyf o hyd. Pan ddown ni’r alumni at ein gilydd, mae cymaint o’r sgwrs yn troi o gwmpas y bobl roeddem ni’n eu hadnabod a’r hyn a wnaethom, profiad a rannwyd gan bawb. Rwyf hefyd yn cofio’r amgylchedd. Roedd Aber yn lle gwych i bawb a hoffai’r byd tu allan, yn enwedig y môr. Rwyf dal i gofio gwylio stormydd gwyllt y gaeaf a ddeuai i’r bae a tharo yn erbyn y prom.
Beth rydych chi’n ei wneud nawr o ran eich gyrfa a sut gwnaeth eich Gradd o Aberystwyth eich helpu?
Yn wreiddiol, mi roeddwn i’n astudio’r hyn a elwir bellach yn Wyddorau Amgylcheddol ond a oedd ar y pryd yn gymysgedd o Fotaneg, Sŵoleg, Ecoleg a nifer o bynciau tebyg eraill. Mae’n wahanol iawn i’r hyn a wnaf heddiw fel partner yng nghwmni archwilio ac ymgynghori mwyaf y byd. Mi roedd y radd yn bendant o gymorth i gael y swydd gan fod rhaglenni i raddedigion â graddau amherthnasol yn ddigon cyffredin ar y pryd – roedd yn arwydd eich bod chi’n gwybod sut i feddwl a bod gennych y galluoedd sylfaenol y chwiliai’r cyflogwr amdanynt. Pan gefais fy ngradd, ni feddyliais fod llawer o gysylltiad rhwng fy ngradd a gyrfa ym myd cyfrifeg, ond dros y blynyddoedd, daeth y tebygrwydd rhwng dewis naturiol a chystadleuaeth gorfforaethol yn amlwg iawn i mi. Er na wnaeth fy helpu o ran agweddau technegol fy swydd, bu’n sicr o help imi edrych ar bethau o safbwynt ehangach.
Pa gyngor fyddai gennych i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs chi nawr?
Nid y cwrs ydyw o angenrhaid ond yr hyn a wnewch chi ohono. Mwynhewch eich amser yn Aber – mae’n lle arbennig iawn, gwnewch y mwyaf ohono. Dewch o hyd i rywbeth yr ydych yn ei fwynhau a’i wneud yn dda. Gwnewch ffrindiau a’u cadw nhw. Teithiwch i ehangu’r meddwl. Gosodwch nodau i chi’ch hun a dyfalbarhau, ond peidiwch ag anghofio cael hwyl ar hyd y daith.