Yuko Nakauchi
Enillodd Yuko Nakauchi radd gyfun yn y Gymraeg ac Astudiaethau Theatr a Theledu yn 2002. Yn ogystal â gyrfa lwyddiannus yn y cyfryngau, Yuko yw llysgennad answyddogol Aber yn Siapan ac mae hi’n barod i helpu alumnus Aber i ymsefydlu a/neu fasnachu yno. Cysylltwch â hi: japan@alumni.aber.ac.uk
Beth rydych chi’n ei gofio’n bennaf am eich cyfnod yn Aber?
Golygfeydd trawiadol a phobl. Roedd Aberystwyth yn wahanol iawn i’r lle yr oeddwn i’n dod ohono. Cefais fy magu yng nghanol Tokyo lle na fyddai pobl wir yn adnabod eu cymdogion, felly syrthiais mewn cariad ar unwaith ag awyrgylch cyfeillgar y dref. Teimlais fod pobl mor agos at ei gilydd – byddwn i’n taro ar draws rhywun yr oeddwn i’n ei adnabod bob munud ac yn dechrau sgwrsio ar y stryd neu ar y campws, rhywbeth nad yw’n digwydd yn aml iawn yn Tokyo. Roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel iawn yn Aber a doedd byth hiraeth arnaf.
Beth rydych chi’n ei wneud nawr o ran eich gyrfa a sut gwnaeth eich Gradd o Aberystwyth eich helpu?
Dilynais gwrs cyfun yn y Gymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu, gan ddilyn y ddau gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Ers imi ddychwelyd i Siapan, rwyf wedi gweithio i S4C a BBC Cymru fel fficsiwr a chyfieithydd. Rwyf hefyd yn gyflwynydd radio yn Siapan. Gan mai fi yw’r unig un sy’n siarad Cymraeg yng nghyfryngau Siapan, rwyf wedi cael y cyfle i gyfweld artistiaid Cymraeg gwych megis Super Furry Animals, Katherine Jenkins a Duffy.
Rwyf mor ddiolchgar fod fy ngradd yn Aber wedi cynnig y fath brofiad a sgiliau unigryw i mi ac rwy’n falch iawn fod yr hyn rwy’n ei wneud nawr yn gwbl gysylltiedig â’m hastudiaethau. Rwyf hefyd wedi fy mhenodi yn Llysgennad Addysg y DU gan y Cyngor Prydeinig (Siapan) ar ôl ennill Cystadleuaeth Dalentau Alumni’r DU i ddod o hyd i alumni yn Siapan sy’n dangos orau drwy eu sgiliau werth addysg yn y DU.
Pa gyngor fyddai gennych i fyfyriwr sy’n dilyn eich cwrs chi nawr?
Mae Aberystwyth yn lle gwych i ganolbwyntio ar eich astudiaethau a gwneud ffrindiau da. Canolbwyntiwch ar yr hyn rydych yn ei hoffi a dilyn hynny – efallai y dewch o hyd i rywbeth arall sydd o ddiddordeb i chi. Cofiwch fod darlithwyr a staff y brifysgol bob amser yn barod i’ch helpu. Mwynewch fywyd Aber!