Y Bwrdd Cynghori Datblygu
Mae’r Bwrdd Cynghori Datblygu yn gorff o wirfoddolwyr hŷn sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a sgiliau rhwydweithio i’r Brifysgol. Mae cylch gwaith y Bwrdd yn amrywio o gynnig sylwadau ar gynlluniau strategol y Brifysgol i gynorthwyo wrth wella’r gwasanaethau alumni (yn enwedig o ran cefnogi gyrfaoedd ein graddedigion diweddar a hwyluso cyfleoedd partneriaethau masnachol) a hyrwyddo cefnogaeth ddyngarol i Aber.
Aelodau
Myra Kinghorn
Mae gan Myra Kinghorn BLib FCA CDir ystod helaeth o brofiad yn gweithio fel cyfarwyddwr gweithredol ac anweithredol. Yn dilyn tair blynedd ar ddeg ym myd cyfrifeg, hi oedd Prif Weithredwr cyntaf y Gronfa Diogelu Pensiynau, a Phrif Weithredwr y Cynllun Iawndal Buddsoddwyr. Ar hyn o bryd, Myra yw Cadeirydd Pwyllgor Rheoli’r Cynllun (pwyllgor annibynnol o’r Cyngor Taliadau Ewropeaidd). Mae hi hefyd yn aelod o’r Bwrdd Cofrestru Penseiri ac yn Llywodraethwr Coleg Morley.
Mick Buckley
Mick Buckley yw Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol CNBC, EMEA. Cyn ymuno â CNBC, treuliodd Mick wyth mlynedd gyda Turner Broadcasting Systems Europe, lle bu’n Is-Lywydd Gweithredol TBS News Networks a Rheolwr Gyfarwyddwr y DU. Yn 2002 cwblhaodd y “Rhaglen Reoli Uwch” yn Ysgol Fusnes Harvard. Graddiodd o Goleg Prifysgol Cymru gyda gradd anrhydedd BSc mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Strategol. Mae’n gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac yn aelod o fwrdd telegyfathrebu ITU.
Anne Davies
Uwch Cwnsler – Crowell a Moring
Donald Davies
Athro Emeritws Tocsicoleg yng Ngholeg Imperial Llundain a Chyfarwyddwr Sefydlu ML Technologies (cynhyrchion fferyllol).
Henrietta De Salis
Penodwyd Henrietta yn Bennaeth y tîm Cyfreithiol ar gyfer Marchnadoedd Cyfalaf yn Swiss Re yn Hydref 2009. Cyn hynny, bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol yn Dresdner Kleinwort.
Nicholas Eldred
Nicholas Eldred yw’r Cwnsler Cyffredinol i’r Grŵp ac Ysgrifennydd y BBC, cyfarwyddwr anweithredol BBC Worldwide, cyfarwyddwr Daliadau Masnachol BBC, cyfarwyddwr Stiwdios ac Ôl-Gynhyrchu BBC, cadeirydd Pwyllgor Archwilio Daliadau Masnachol BBC ac ymddiriedolwr BBC Plant Mewn Angen.
Andrew Guy
Swyddog gweithredol ar fwrdd grwpiau tai bwyta preifat a chyhoeddus yn y DU, UDA ac Ewrop. Bellach yn Rheolwr Gyfarwyddwr y DU ac Iwerddon ar gyfer Autogrill Group, Milan.
Peter Jones
Mae Peter T Jones yn ymwneud â chyflenwi llawrydd y seilwaith gwastraff carbon isel ac wedi cadeirio Grŵp Cynghori Cynllunio Advantage West Midlands. Ymgymhwysodd yn Economegydd Diwydiannol yn 1969, ac mae ganddo Radd Anrhydeddus o Brifysgol Southampton am waith sy’n gysylltiedig â thechnoleg amgylcheddol. Mae e’n Aelod neu’n Gymrawd o CIM , CIWEM, CIWM , CILT. Mae e’n cynghori ystod eang o gwmnïoedd o’r radd flaenaf ar ynni gwasgaredig o wastraff ac yn cadeirio’r Grŵp Gas to Grid a noddir gan WRAP.
Kathryn Ludlow
Mae Kathryn yn Bartner yn Linklaters yn yr Adran Ymgyfreitha. Mae ganddi brofiad o amrywiaeth helaeth o anghydfodau masnachol, gyda phwyslais ar esgeuluster proffesiynol a gwasanaethau ariannol. Profiad arbennig o gynrychioli cwmnïoedd cyfrifeg.
Huw Morgan
Pennaeth Bancio Busnes, Banc HSBC ccc. Mae Huw wedi gweithio i’r HSBC am y rhan fwyaf o’i fywyd proffesiynol. Mae ef bellach yn gyfrifol am Fancio Busnes a Masnachfreintio ar gyfer y DU. Daeth yn gymrawd y Sefydliad Bancio Siartredig yn 2004.
Glyn Rowlands
Cadeirydd blaenorol a rheolwr gyfarwyddwr.
Robert Williams
Mae Robert, sy’n bartner yn Allen & Overy, yn cynrychioli cwmnïoedd neu eu banciau buddsoddi ar gynigion o warannau ecwiti, dyled a hybrid yn UDA a’r marchnadoedd cyfalaf rhyngwladol.
Peter Bevan
Enillodd Peter Bevan ei LLM(Anrh) yn Aberystwyth ac ymgymhwyso yn Gyfreithiwr yn 1969. Yn fuan wedi hynny, ymunodd â BP gan dreulio ei holl yrfa broffesiynol yno, gan ddod yn Gwnsler Cyffredinol i’r Grŵp ac yn Is-Lywydd Gweithredol cyn ymddeol yn 2008.
Malcolm Butler
Hyfforddwyd Dr. Butler yn ddaearegydd gan weithio am fwy na 25 mlynedd fel archwilydd ac uwch-swyddog ym musnes olew a nwy ar draws y byd. Yn 1998, ymunodd â Banc Buddsoddiadau HSBC fel Cyfarwyddwr Ymgynghorol a chymryd cyfrifoldeb dros waith ymgynghorol yn ymwneud â chyllid corfforaethol olew a nwy. Ers 2003, bu’n uwch-ymgynghorydd i Seymour Pierce Cyf. Ers 2007, bu’n ymgynghorydd i Ironsides Partners. Mae ef hefyd yn ymgynghorydd i’r Pacific Alliance Group, grŵp ecwiti preifat sydd wedi’i leoli yn Hong Kong, yn Llywydd Waterloo Oil & Gas, LLC, cwmni fforio a chynhyrchu olew a nwy sy’n gweithio yn Louisiana, ac yn Gadeirydd dau gwmni fforio olew EIS bychan sy’n gweithio yn y DU.
David Davies
Cyfarwyddwr, Clive & Stokes Rhyngwladol
Nigel Davies
Gweithiodd Nigel am 30 mlynedd ym myd technoleg gorfforaethol a busnes. Yn 2003, ef oedd cyfarwyddwr sefydlu Innoval Technology Cyf, ymgynghoriaeth sydd wedi’i seilio ar dechnoleg, y dyfarnwyd iddi’n ddiweddar Wobr Fasnach Ryngwladol ar gyfer De Lloegr.
Roger Donvaband
Cyfarwyddwr, Ymgynghorwyr Ymchwil Datblygiad Busnes
Jerry Evans
Mentrwr ac Angel Busnes
Lynton Jones
Graddiodd Lynton Jones o’r adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1967 ac fe ymunodd â’r Gwasanaeth Llysgenhadol y flwyddyn wedyn. Yn ogystal â’r Swyddfa Dramor, gweithiodd mewn llysgenadaethau yn Sambia, Gwlad Thai (yn ystod Rhyfel Fietnam) a Pharis. Ar ôl Paris, symudodd i’r sector gwasanaethau ariannol a dod yn gyfarwyddwr materion cyhoeddus yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain. Wedi hynny, bu’n Brif Weithredwr Nasdaq International, yr OmLondon Securities & Derivatives Exchange a’r International Petroleum Exchange. Yn 2000, daeth yn gadeirydd Jiway ccc (un o ddioddefwyr cyntaf y swigen dot com). Yn 2002, sefydlodd a dod yn gadeirydd Bourse Consult (www.bourse-consult.com).
Alexander Keepin
Graddiodd Alexander yn 1995 ar ôl astudio’r gyfraith yn Aberystwyth. Derbyniodd Alexander hyfforddiant yn y Ddinas ac mae yn Bartner a Phennaeth Cloddio yng ngrŵp cyllid corfforaethol Berwin Leighton Paisner. Cyn hynny, treuliodd Alexander dros 10 mlynedd yn Charles Russell. Mae cwmni Alexander yn benodol ryngwladol a chanddo brofiad cyfoethog o gynghori ar restrau gan gwmnïoedd Ynni ac Adnoddau Naturiol. Mae gan Alexander hefyd brofiad sylweddol ym maes cyllid corfforaethol gan gynnwys uno a phrynu cwmnïoedd, mentrau ar y cyd a throsfeddiannu cwmnïoedd, yn ogystal â throsfeddiannau gwrthdro. Mae Alexander yn byw yng Nghaint gyda’i wraig (a raddiodd mewn hanes yn Aberystwyth) a dau blentyn.
Ian MacEachern
Bu Ian yn astudio Mathemateg Bur (BSc) ym Mhrifysgol Aberystwyth a dadansoddi rhifol (MSc) ym Mhrifysgol Dundee. Mae e’n Gymrawd Siartredig y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, yn Beiriannydd Siartredig, Rheolwr Siartredig, Aelod Proffesiynol TG Siartredig a Chymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau. Ar ôl 2007, penodwyd Ian yn Bennaeth Cynllunio Busnes yng Nghofrestrfa Tir EM gyda chyfrifoldeb dros gynllunio busnes strategol a rheoli perfformiad. Ar hyn o bryd, mae Ian yn aelod o’r Bwrdd ac yn Ymddiriedolwr y Sefydliad Rheolaeth Siartredig, yn aelod anweithredol o Fwrdd Cynghori Datblygu Prifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Fwrdd Cynghori’r Swyddfa Cydnabod Gwobrau.
Martin Porter
Pennaeth Ecwiti Eang, Rheoli Asedau JP Morgan
Keith Thomas
Partner Corfforaethol Ymgynghori Tax, Ernst & Young