Newyddion, Digwyddiadau ac Aduniadau

Newyddion

Fe gewch y newyddion diweddaraf o Brifysgol Aberystwyth yma.

Digwyddiadau Rhithiol

Pwyswch yma i weld ein digwyddiadau rhithiol sydd wedi eu cynnal.

Digwyddiadau

I weld uchafbwyntiau ein haduniad diweddaraf, Mehefin 23-25 ​​2023 yma

I sicrhau eich bod yn clywed am y digwyddiadau sydd gennym ar y gweill, gan gynnwys gwybodaeth am aduniadau y gallech gael eich gwahodd iddynt, cymerwch funud fach i ddiweddaru'r manylion sydd gennym amdanoch chi.

Aduniadau

Os ydych yn dathlu carreg filltir arbennig, neu'n ceisio dyfalu beth mae eich ffrindiau yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol yn ei wneud erbyn hyn, mae nawr yn amser gwych ichi ddod at eich gilydd.

Mae aduniadau yn ffordd wych o gysylltu unwaith eto â hen ffrindiau ac i gofio am eich cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth. I nifer o fyfyrwyr Aber, mae'r ffrindiau y maent yn eu gwneud yn y Brifysgol yn ffrindiau am oes.

Cysylltwch â ni os hoffech gael unrhyw gyngor ar gynllunio aduniadau.

Dod o Hyd i Ffrind

Gallwn eich cefnogi chi drwy eich helpu i gysylltu unwaith eto â hen ffrindiau.  Os ydych yn ystyried trefnu aduniad, cysylltwch â ni drwy e-bostio alumni@aber.ac.uk

Oherwydd ein polisïau diogelu data, ni allwn ddatgelu manylion personol neb. Serch hynny, rydym yn fwy na pharod i anfon negeseuon at bobl a chysylltu â'ch hen ffrindiau ar eich rhan. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn diweddaru eich manylion eich hun rhag ofn i rywun geisio dod o hyd i chi.

Byddem yn falch iawn o glywed oddi wrthych chi a'ch helpu i gysylltu â phobl.