Y Gronfa Flynyddol

Beth yw’r Gronfa Flynyddol?

Fel rhan o’r Gronfa Flynyddol rydym yn gofyn bob blwyddyn am arian gan bob aelod o gyn-fyfyrwyr Aber, staff, Cyngor a ffrindiau eraill y Brifysgol.

Mae’n ceisio darparu’r adnoddau i gyllido dyfarniadau a phrosiectau cymharol ddiymhongar a chyraeddadwy bob blwyddyn a fydd yn gwella ac yn ehangu datblygiad addysgol a phersonol ein myfyrwyr.

Bydd yr holl arian a godir bob blwyddyn yn cael ei wario ar y prosiectau targed ar gyfer y flwyddyn honno, a chaiff ei rannu yn unol â dewisiadau a dymuniadau’r rhoddwyr.

 

 

Virgin Giving button

 

neu

Lawrlwytho Ffurflen Rhodd [pdf]                                      

Pam ei bod yn angenrheidiol?

Diben y Gronfa Flynyddol yw darparu adnoddau ychwanegol er lles myfyrwyr y Brifysgol. Mae’r rhain yn bethau na ellir disgwyl i incwm traddodiadol y Brifysgol dalu amdanynt.

Mae hyn hefyd yn galluogi i holl gefnogwyr Aber gymryd rhan mewn rhywbeth a fydd o fudd uniongyrchol a sylweddol i’n myfyrwyr.

Y Cynllun Ariannu Cyfatebol

O fis Medi 2009, am dair blynedd, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi clustnodi swm o arian er mwyn rhoi 50c am bob punt a roddir i Aberystwyth. O ystyried y system Cymorth Rhodd treth-effeithlon (gweler uchod), gallwn gynyddu gwerth cyfanswm eich rhodd o dros 90%.

I gael y budd eithaf o’r cynllun hwn, a chynyddu effaith eich rhodd, mae’n hanfodol ein bod yn cael cyfradd cyfranogi mor uchel â phosibl gan ein cefnogwyr, felly gofynnwn i chi beidio â gohirio’ch rhodd tan rywbryd eto. the

Prosiectau ar gyfer y Gronfa Flynyddol eleni

                        

Faint ddylwn i ei roi?

Dylech roi cymaint ag y teimlwch yn gyfforddus i’w roi. Mae’n bwysig i ni ein bod yn gallu dangos i ddarpar gronfeydd eraill bod gennym gefnogaeth ein cymuned uniongyrchol ac felly byddem yn gwerthfawrogi unrhyw rodd yn fawr iawn, beth bynnag fo’i maint.

Gellir rhoi un rhodd ar ei phen ei hun neu rannu’r rhodd dros y flwyddyn trwy dalu’n fisol drwy ddebyd uniongyrchol. O roi’r rhodd yn dreth-effeithiol trwy’r system Cymorth Rhodd, gall gwerth eich rhodd gynyddu o dros 25% ac, os ydych yn talu treth ar gyfradd uwch, gall y gwir gost i chi gael ei lleihau ymhellach.

Lle y bydd fy rhodd yn cael ei gwario?

Bydd eich rhodd yn cael ei gwario ar rywbeth yr ydych chi wedi’i ddewis neu gallwch roi caniatâd i’r Brifysgol glustnodi eich rhodd ar gyfer rhywbeth arall angenrheidiol. Cliciwch yma i gael manylion am y prosiectau a glustnodwyd ar gyfer Cronfa Flynyddol eleni, a gallwch nodi pa brosiect (neu brosiectau) yr hoffech glustnodi eich rhodd iddo.

Beth bynnag fo’ch dewis, gallwch fod yn hyderus y bydd y Brifysgol yn anrhydeddu eich penderfyniad yn unol â’i pholisi o roi dymuniadau’r rhoddwyr yn gyntaf.