Gwneud i’ch Rhodd fynd Ymhellach
Mae gwneud y gorau o werth eich rhodd o fantais amlwg i bawb. Fel cefnogwr, gallwch wneud llawer mwy ar gyfer y Brifysgol nag oeddech wedi’i ddisgwyl a gallwn ni, fel y derbynnydd ffodus, wneud llawer mwy â’ch rhodd.
Mae tair prif ffordd y gallwn gynyddu effaith eich cymorth: Cymorth Rhodd, y Cynllun Arian Cyfatebol a Rhoddion Her. Mae yna hefyd ddwy ffordd arall o gefnogi Aber sydd â manteision treth sylweddol i chi fel rhoddwr: Rhoi Stociau, Cyfrannau a Gwarannau a Rhoi Tir (cliciwch ar y dulliau gwahanol i gael rhagor o fanylion). Yn olaf, rydym wedi cynnwys adrannau ar Roi Arian o’ch Cyflog ac Arian Cyfatebol Corfforaethol ynghyd â rhestr o rai o’r cwmnïau sy’n gweithredu cynlluniau o’r fath.
Cymorth Rhodd (trethdalwyr y DU yn unig)
Yn ôl y system Cymorth Rhodd, gall y Brifysgol adennill y gyfradd sylfaenol o dreth (20% ar hyn o bryd) y mae trethdalwyr y DU eisoes wedi’i thalu ar yr arian y maent yn ei roi. Mae hyn yn gyfartal ag enillion net o 25% ar werth y rhodd. Hefyd, gall trethdalwyr cyfraddau uwch adennill y gwahaniaeth rhwng y gyfradd sylfaenol a’r gyfradd uwch (40%) o dreth y maent wedi’i thalu ar eu rhodd. Mae hyn yn gyfartal â 25% arall.
Dangosir hyn yn y tabl canlynol:
| Eich Rhodd | Aber yn Adennill Treth Sylfaenol o |
Cyfanswm Gwerth y Rhodd i Aber |
Chi’n Adennill Treth (os ydych yn talu cyfradd uwch) |
Cost Net i chi |
|---|---|---|---|---|
| £50 | £12.50 | £62.50 | £12.50 | £37.50 |
| £100 | £25 | £125 | £25 | £75 |
| £250 | £62.50 | £312.50 | £62.50 | pound;187.50 |
| £750 | £187.50 | £937.50 | £187.50 | £562.50 |
| £2,000 | £500 | £2,500 | £500 | £1,500 |
Hefyd, tan 2011 mae Llywodraeth y DU yn ychwanegu 3% arall at werth y rhodd trwy ostyngiad trawsnewidiol yn sgil lleihau cyfradd sylfaenol y dreth yn 2008.
Y Cynllun Arian Cyfatebol (byd-eang)
Mewn menter gwbl ar wahân, mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) wedi cyflwyno cynllun arian cyfatebol newydd a fydd yn rhedeg am dair blynedd o fis Hydref 2009.
Yn ôl y cynllun hwn, am bob punt o roddion dyngarol a gaiff y Brifysgol o unrhyw le yn y byd, bydd HEFCW yn rhoi 50c, gan gynyddu gwerth y rhodd o hanner. Mae’r cyllid hwn yn seiliedig ar gyfanswm gwerth y rhoddion a gafwyd (gan gynnwys Cymorth Rhodd) er mwyn i’r cynnydd yng ngwerth y rhoddion yn ystod y cyfnod hwn fod cymaint â 92%.
| Eich Rhodd | Aber yn hawlio gostyngiad treth |
Gwerth y Rhodd |
Arian Cyfatebol yn Rhoi |
Cyfanswm Gwerth y Rhodd |
|---|---|---|---|---|
| £50 | £12.50 | £62.50 | £31.25 | £93.75 |
| £100 | £25 | £125 | £62.50 | £187.50 |
| £250 | £62.50 | £312.50 | £156.25 | £468.75 |
| £750 | £187.50 | £937.50 | £468.75 | £1,406.25 |
| £2,000 | £500 | £2,500 | £1,250 | £3,750 |
Rhoddion Her
O bryd i’w gilydd, mae prif gefnogwyr y Brifysgol yn ein herio trwy gynnig rhoddion sylweddol i ni os ydym yn gallu cyfateb y rhoddion hyn â rhoddion eraill o’n hetholaeth. Maent felly’n cymell Aber a’n cefnogwyr i wneud mwy, i weithio’n galetach ac i roi’n fwy hael. Os byddwn yn cael heriau o’r fath, byddwn yn eu cyhoeddi yma.
Rhoi Arian o’ch Cyflog
Efallai fod eich cwmni’n rhoi cyfle i chi roi arian o’ch cyflog. Mae rhoi arian o’ch cyflog yn golygu y bydd eich rhodd yn cael ei thynnu o’ch cyflog cyn treth, felly bydd pob £1.00 yr ydych yn ei rhoi ond yn costio 75c, neu 60c i chi os ydych yn drethdalwr ar gyfradd uwch. Bydd eich Adran Gyflogau neu Adnoddau Dynol yn gallu rhoi manylion i chi os ydynt yn gweithredu’r cynllun hwn.
Arian Cyfatebol Corfforaethol
Bydd llawer o gwmnïau yn helpu rhoddion elusennol trwy gynllun arian cyfatebol. Bydd rhai yn cyfateb punt am bunt, a bydd eraill hyd yn oed yn dyblu’r rhoddion a roddwyd i brifysgolion gan eu gweithwyr. Os ydych am roi rhodd i Aber, gofynnwch i’ch adran gyflogau neu Adnoddau Dynol a yw eich cwmni’n gweithredu cynllun o’r fath.
Isod ceir rhestr o gwmnïau sy’n fodlon rhoi arian cyfatebol am roddion elusennol eu gweithwyr. Nid yw’r rhestr hon yn derfynol o bell ffordd, rhowch wybod i ni os ydych yn gwybod am unrhyw fylchau neu wallau.
3i
Alfred Dunhill
Alliance & Leicester
Alliance Capital
American Express
Anglian Water
Argos
ARM Holdings
Asda
AT Kearney
BAA
Bank of America
Bank of England
Bank of Scotland
Bank of Tokyo-Mitsubishi
Bankers Trust
Barclays Capital
Barclays Group
BG Group
Boeing Commercial Airplanes
Boston Consulting Group
BP
Bristol-Myers Squibb
British American Tobacco (BAT)
BT
Cable & Wireless
Camelot
Capgemini
Capital International Research
Centrica
Chase Manhattan Foundation
Citigroup
Credit Suisse
De La Rue
Deloitte
Deutsche Bank
DHL
Diageo
Dixons
Eli Lily
EMI
Energis
Ericsson Telecom
Ernst & Young
Exxon Mobil
Fidelity Investments
First Group
GlaxoSmithKline Plc
Goldman Sachs
HSBC
IBM
IDEO
Industrial Bank of Japan
Invensys
J P Morgan
Johnson & Johnson
Kingfisher plc
KPMG
Littlewoods
Lloyds TSB
Marks & Spencer
Marsh & McLennan Companies inc
McKinsey & Co
Mercury Asset Management
Microsoft
Mitsubishi Chemical Corporation
Mitsubishi Research Institute
Morgan Stanley
National Power
NCR Corporation
Pearson
Philip Morris International
Philips
PPG Industries Foundation
PricewaterhouseCoopers
Procter & Gamble
Reuters
Rolls Royce
Royal Bank of Scotland Group
Royal SunAlliance
Schroders plc
Shell
Siemens Medical
Sigma Securities
Stagecoach Group
Standard & Poor's
Sun Life of Canada
Tesco
Thames Water
UBS
United Airlines
Vodafone
Warner Music Group
Yorkshire Water