Gadael Rhodd i Aberystwyth yn eich Ewyllys

Mae rheswm da pam fod cymynroddion yn aml yn cael eu galw’n un o’r “rhoddion gorau posibl”. Beth allai fod yn fwy anhunanol a hael na rhoi rhodd na all rywun ddiolch i chi amdani ar ôl ei chael? Dyma’r rheswm dros greu Cymdeithas 1872, cyfrwng sy’n galluogi i ni ddiolch i’r rhai sy’n dewis gadael rhodd i Aber yn eu hewyllys yn ystod eu bywyd.  I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma cliciwch yma.

Ar ôl gofalu am fuddiannau eu teulu a’u ffrindiau, mae llawer yn dewis cofio Aber trwy adael cymynrodd, sy’n adlewyrchu eu cefnogaeth a’u hoffter a’u dymuniad i weld y Brifysgol yn parhau i lwyddo yn y dyfodol. Gall cymynrodd helpu i sicrhau, am genedlaethau i ddod, fod Aber yn gallu cystadlu â sefydliadau eraill ym mhob agwedd ac yn gallu cynnal ei statws fel un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y wlad.

Nid yw rhoi cymynrodd i Aber yn fater cymhleth, ond byddem bob amser yn argymell eich bod yn gofyn am gyngor cyfreithiol proffesiynol cyn newid eich Ewyllys. I’ch helpu â’r broses hon, rydym wedi rhestru’r prif fathau o gymynroddion ac wedi awgrymu brawddegau posibl i sicrhau fod eich dymuniadau’n cael eu hanrhydeddu.