Y Tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni

Mae’r tîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni yma i’ch helpu ym mha bynnag ffordd y gallwn ni.

Ceir manylion am y tîm isod:

Julian Smyth
Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni

Mae Julian wedi bod yn Gyfarwyddwr Datblygu yng Ngholeg Linacre, Rhydychen, yn Brif Weithredwr LandAid, yn Gyfarwyddwr Bradfield Foundation a Chyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Ysgol Sherborne. Ac yntau wedi graddio o Brifysgol Nottingham, cyn dod i weithio i Aber ef oedd Prif Ymgynghorwr ASK Associates, sef ymgynghoriaeth ddatblygu addysgol.

Ffôn: 01970 621884
E-bost: Julian.Smyth@aber.ac.uk

Louise Perkins
Rheolwr Cysylltiadau Alumni

Ymunodd Louise, cynfyfyrwraig o Aber, â’r Brifysgol ychydig dros ddeuddeng mlynedd yn ôl fel Swyddog Alumni. Hi yw’r pwynt cyswllt cyntaf a’r trefnydd ar gyfer holl weithgaredd cysylltiadau cynfyfyrwyr y Brifysgol. Hi hefyd yw Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas y Cynfyfyrwyr.

Ffôn: 01970 622081
E-bost: Louise.Perkins@aber.ac.uk

 

  

Hayley Neville-Jones
Rheolwr Swyddfa/Cynorthwyydd i'r Cyfarwyddwr

Fe aned ac addysgwyd Hayley yn Aberystwyth, ac fe ymunodd a'r tîm ym mis Ionawr 2010 fel Rheolwr Swyddfa/PA, gan rannu ei hamser rhwng yr Adran Datblygu a Chysylltiadau Alumni a'r Swyddfa Gyfathrebu a Materion Cyhoeddus..

Ffôn: 01970 621568
E-bost: hln@aber.ac.uk

 
Dr David Currie
Rheolwr Cronfa Ddata

Ymunodd David â’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni ym mis Mai 2009. Yn raddedig o Goleg Penfro Rhydychen, yn ddiweddar derbyniodd ei ddoethuriaeth o Adran Gyfrifiadureg Aberystwyth. Mae David yn gyfrifol am reoli cronfa ddata alumni’r Brifysgol.

Ffôn: 01970 628798
E-bost: dmc@aber.ac.uk

Cheryl Hughes
Ymchwilydd Rhagolygon

Ymunodd Cheryl â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Mai 2009. Yn raddedig o Brifysgol Bryste, mae hi’n brofiadol iawn yn y gwaith o chwilio am gysylltiadau a allai fod o fudd i’r Brifysgol.

Ffôn: 01970 628674
E-bost: ceh@aber.ac.uk

 

Richard Marriott                              Swyddog Datblygu

Ymunodd Richard â’r tîm datblygu ac alumni o Goleg Powys, darparwr AB yng Nghanolbarth Cymru, ym mis Ebrill 2011. Graddiodd Richard o Aberystwyth yn 2007 mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac mae bellach yn gyfrifol am sicrhau Rhoddion Mawr.