Cyflogadwyedd

Myfyrwyr sy'n gweithio mewn labordy ymarferol

Rydym ni am i’n myfyrwyr i gyd gyflawni eu huchelgais. Dyna pam rydym ni’n gwneud pob ymdrech yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol i’ch helpu i sicrhau’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y gweithle. Anogir menter unigol, trafodaethau grŵp a sgiliau arwain drwy amrywiol gyfleoedd a geir mewn lleoliadau darlith, seminar, tiwtorial, llyfrgell, maes ac ymarferol.

Byddwch hefyd yn dysgu llawer o sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr fel y gallu i gynnal ymchwil a dehongli gwybodaeth, cyfleu syniadau, datblygu meddwl beirniadol a rhyngddisgyblaethol, gweithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm creadigol, a chadw cymhelliad a ffocws ar eich nod.

Mae’r rhan fwyaf o’n cyrsiau anrhydedd sengl ar gael gyda’r opsiwn am flwyddyn integredig mewn diwydiant neu flwyddyn integredig yn astudio dramor, fydd yn eich galluogi i gael y gorau o’ch amser yn y brifysgol a bod ar y blaen yn y farchnad swyddi ar ôl graddio. Bydd ein cyrsiau blwyddyn sylfaen yn sicrhau eich bod yn cael sail gadarn yn y sgiliau hanfodol y bydd eu hangen i gwblhau eich dewis o lwybr gradd.