Cyrsiau Maes Gwyddor yr Amgylchedd

Mae gwaith maes yn hanfodol i wyddonwyr amgylcheddol, er mwyn gwella dealltwriaeth yn ogystal â datblygu'r sgiliau mae cyflogwyr eu hangen. Yn ystod gwyliau Pasg yr ail flwyddyn o astudio, mae myfyrwyr Gwyddor yr Amgylchedd yn ymgymryd â thaith maes wythnos o hyd. Yn y gorffennol mae lleoliadau wedi cynnwys Sbaen a'r DG. Ar y daith byddwch yn datblygu eich sgiliau maes gwyddor amgylcheddol, gan gynnwys samplu dŵr, arolygon llystyfiant ac ecosystemau ac asesiad effaith amgylcheddol. Byddwch yn datblygu sgiliau cofnodi maes, a dysgu sut i ddadansoddi data maes a chyflwyno canlyniadau mesuriadau maes gwreiddiol mewn adroddiadau technegol a thrwy gyflwyniadau llafar. Yn ogystal â hyn, byddwch yn ymgymryd â 4 diwrnod o waith maes lleol yn ardal Canolbarth Cymru ac yn ymchwilio i bynciau megis trin dŵr wedi'i halogi, llygredd metel trwm o fwyngloddio, rheoli gwarchodfa natur, cofnodion paleoecolegol o newid amgylcheddol, a chyflwyniad i arolygu. Ar ben hyn, byddwch yn cael y cyfle i gymryd modiwlau gwaith maes dewisol yn eich 3edd blwyddyn gan gynnwys pynciau fel bioleg dŵr croyw a bioleg y môr.

ES

Astudio gwyddor yr amgylchedd mewn amgylcheddau cras; myfyrwyr yn cymryd samplau pridd ar safle lleol, asesu effeithiau ffermydd gwynt ac ynni gwyrdd, myfyrwyr yn mwynhau cyfleoedd gwaith maes ym mynyddoedd Sbaen, ac yn astudio materion draenio trefol.