Sut i wneud cais?

Grŵp o bobl yn eistedd wrth fwrdd picnic yng ngerddi Castell Aberystwyth

Rydym yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd, a phob oedran

Yn y lle cyntaf, dylid anfon ymholiadau am ein cyrsiau byr at yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth (e-bost: dis-dept@aber.ac.uk neu ffonio: +44 (0) 1970 622188). Caiff eich ymholiad ei basio ymlaen i'n Swyddog Derbyn neu i aelod staff perthnasol arall. 

Yn ogystal, gall Swyddfa Dderbyn Prifysgol Aberystwyth eich helpu gydag unrhyw ymholiad ynghylch cyrsiau Uwchraddedig a'r holl gyrsiau dysgu o bell (e-bost: pg-admissions@aber.ac.uk neu ffôn: +44 (0) 1970 622270).

  • Cyrsiau Dysgu o Bell (gan gynnwys cyrsiau israddedig, uwchraddedig, a Chyrsiau Byr DPP trwy ddysgu o bell) - I gyrchu'r ffurflenni cais, ewch i'r dudalen Gwneud Cais yn yr adran cyrsiau uwchraddedig. Gallwch hefyd ddefnyddio'r botwm Ymgeisio Nawr ar dudalen y cwrs yn ein rhestr cyrsiau.
  • Cyrsiau Uwchraddedig amser llawn (a rhan-amser) - I gyrchu'r ffurflenni cais, ewch i'r dudalen Gwneud Cais yn yr adran cyrsiau uwchraddedig. Gallwch hefyd ddefnyddio'r botwm Ymgeisio Nawr ar dudalen y cwrs yn ein rhestr cyrsiau.
  • Cyrsiau Israddedig amser llawn (a rhan-amser) - Dilynwch y Canllaw cam wrth gam wrth gwblhau ffurflen ar-lein UCAS.

Diwrnodau Agored ac Ymweld â ni

Trefnir Diwrnodau Agored, teithiau campws, a diwrnodau ymweld i ymgeiswyr trwy gydol y flwyddyn. Maent yn gyfle i gwrdd â staff a myfyrwyr sy'n astudio gyda ni ar hyn o bryd ac i weld y cyfleusterau sydd ar gael. Ewch i'r dudalen Diwrnodau Agored i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Beth am lety?

Mae myfyrwyr gradd israddedig yr Adran fel rheol yn treulio 2 allan o’r 3 blynedd yn llety’r Brifysgol. Mae gan y Brifysgol amrywiaeth eang o lety arlwyo a hunanarlwyo, wedi’u lleoli ar y campws ac oddi arno. I gael manylion llawn am yr adnoddau llety a’r costau, gweler adran y Swyddfa Llety ar weddalennau’r Brifysgol.

Mae Swyddfa Llety’r Brifysgol yn rhoi cymorth i ddod o hyd i lety yn y dref sy’n gymharol resymol i rentu. Mae yna hefyd lety yn y Brifysgol sy’n addas i deuluoedd.

I gael rhagor o gymorth cysylltwch â’r Swyddfa Llety: (e-bost: accommodation@aber.ac.uk neu ffoniwch +44 (0) 1970 622772.