Ffioedd, costau eraill, a ffyrdd o ariannu'ch astudio

 

Ffioedd

Ffioedd

Dadansoddiad o'r ffioedd dysgu o bell 2022/23

(Sylwch: Caiff y ffioedd eu hadolygu'n flynyddol bob mis Awst)

Cyrsiau Uwchraddedig Astudiaethau Gwybodaeth: 

Cost:

Ffi gofrestru

£360

Ffi fesul modiwl 10 credyd

£570

Ffi fesul modiwl 20 credyd

£1,140

Ffi fesul blwyddyn academaidd (i fyfyrwyr a noddir 100%) 

£3,400

Cost y traethawd hir

£1,910

Cyfanswm

£9,110

 

Cyrsiau Israddedig Astudiaethau Gwybodaeth:

Cost:

Ffi gofrestru

£360

Ffi fesul modiwl 10 credyd

£350

Ffi fesul modiwl 20 credyd

£700

Ffi fesul blwyddyn academaidd (i fyfyrwyr a noddir 100%) 

£2,800

Cyfanswm

£8,760

Costau eraill: dysgu o bell

Nid yw cost yr ysgolion astudio preswyl yn cael eu cynnwys yn y ffioedd. Golyga hyn y bydd angen ichi ystyried y costau teithio a llety yn ogystal â ffi'r ysgol astudio. Tua £50 yw ffi'r ysgol astudio. Rydym hefyd yn cynnig pecyn aros-ar-y-campws ar gyfer yr ysgolion astudio preswyl, sy'n cynnwys holl gostau'r llety, bwyd a digwyddiadau cymdeithasol. Y gost ar gyfer hyn yw tua £200-£300, yn dibynnu ar sawl noson y byddwch yn aros. Gallwch hefyd drefnu'ch llety eich hun a thalu ffi'r ysgol astudio yn unig.

Mae pob cwrs gradd dysgu o bell (israddedig ac uwchraddedig) yn dechrau gydag ysgol astudio preswyl yn Aberystwyth. Mae'r mwyafrif o gyrsiau hefyd yn cynnwys rhyw fath o gwrs preswyl yn agosach at amser y traethawd hir, ac mae rhai yn cynnwys gweithdai ymarferol ychwanegol. (Cysylltwch â'r Adran i gael manylion am gwrs penodol.)

Mae'r rhaglen BSc Information and Library Studies yn gofyn ichi fynychu tair ysgol astudio breswyl.

Costau eraill: amser llawn (a rhan-amser)

Ceir Taith Astudio orfodol i Lundain bob blwyddyn ym mis Ionawr ar yr holl raglenni uwchraddedig amser llawn. Taith o tua pedwar diwrnod yw hon fel arfer ac mae disgwyl i fyfyrwyr ariannu'r costau teithio, llety a chynhaliaeth. Disgwylir i'r myfyrwyr wneud eu trefniadau teithio a llety i fodloni gofynion unigol eu hunain.

Ffyrdd o ariannu'ch astudio

  • Uwchraddedig amser llawn (a rhan-amser)
  • Israddedig amser llawn (a rhan-amser)
  • Dysgu o bell (israddedig ac uwchraddedig). Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) yn darparu benthyciadau i fyfyrwyr uwchraddedig dysgu o bell sy'n byw yn y DU (rhaid i chi fod wedi cofrestru ar raglen dwy flynedd). Gall myfyrwyr israddedig dysgu o bell sy'n byw yn y DU wneud cais am fenthyciad (ar sail cyflymder eich cynnydd). I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Adran, neu dilynwch y dolenni ar dudalen Cyllid Arall y Brifysgol. Os ydych yn ariannu'r cwrs eich hun, cewch dalu am y modiwlau dros dwy i bum mlynedd trwy brynu'r modiwlau ar siop ar-lein y Brifysgol. Noddir rhai dysgwyr dysgu o bell gan sefydliad.