Ysgoloriaeth KESS – Her i economi ddigidol Cymru: archwilio i ddigido casgliadau arbennig

Mae Prifysgol Aberystwyth, ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn awyddus i benodi myfyriwr MPhil am un flwyddyn i weithio ar brosiect o’r enw:

Her i economi ddigidol Cymru: archwilio i ddigido casgliadau arbennig

Dylai fod gan ymgeiswyr radd dosbarth cyntaf neu 2:1 da o leiaf. Byddai cymhwyster ôl-radd perthnasol, neu brofiad gwaith, mewn maes perthnasol megis archifau, llyfrgelloedd ac astudiaethau llyfrgell, neu astudiaethau theatr, o fantais. Mae rhan o gyllid y prosiect yn dod o’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) drwy law rhaglen Cydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd a weinyddir gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae Ysgoloriaethau PhD KESS yn cael eu dyfarnu ar y cyd â phartneriaid allanol (sef, yn yr achos hwn, y Llyfrgell Genedlaethol).

Er mwyn gwneud cais, dylech anfon y ddogfennaeth ganlynol:


1. At Lucy Tedd (lat@aber.ac.uk), erbyn 18fed Tachwedd 2010: ffurflen gais KESS wedi’i llenwi (rhowch y cyfeirnod AU20003 yn y blwch ar y dde ar frig y ffurflen), enwau dau ganolwr personol, CV diweddar, a chynnig (gweler 2 isod). Cewch lawrlwytho’r ffurflen gais o’r ddolen gyswllt isod.

2. I’r Swyddfa Derbyn Graddedigion erbyn 18fed Tachwedd 2010: Ffurflen Gais am Raglen Ymchwil, dau ganolwr (cewch ddefnyddio’r un rhai a’r rhai uchod) a chynnig MPhil, hyd at 1000 o eiriau, lle y byddwch yn manylu am eich profiad a disgrifio pam rydych chi’n ymgeisydd da i’r ysgoloriaeth ymchwil hon. Cyfeiriwch at Ddisgrifiad y Prosiect yn y ddolen isod.
Mae ffurflenni cais a geirda ar gael i’w lawrlwytho o http://www.aber.ac.uk/pga/web/apply.htm  

Gwerth yr Ysgoloriaeth: £9,000. Bydd arian ychwanegol ar gael ar gyfer pob ysgoloriaeth, sef hyd at £5,200 y flwyddyn am gostau teithio, offer a hyfforddiant i’ch helpu â’ch ymchwil. Nid yw deiliaid Ysgoloriaethau MPhil KESS yn talu ffioedd.
Amser: Amser llawn am un flwyddyn. (Rhaid cyflwyno’r traethawd hir erbyn 6 mis ar ôl y flwyddyn astudio a ariannwyd). Dyddiad dechrau: 1af Ionawr 2011.

Hyfforddiant: Mae’n orfodol ar bob ysgolhaig KESS gael y Cymhwyster Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig (PSDA), gwerth 30-credyd, yn ogystal â’r MPhil.
Pwy sy’n cael ymgeisio: Er mwyn cael ysgoloriaeth KESS, rhaid i chi fod yn preswylio, ar adeg ymgeisio, yn Ardal Gydgyfeirio Cymru, ac mae rhaid i chi allu cymryd cyflogaeth yn yr adran Gydgyfeirio pan fyddwch wedi cwblhau’r ysgoloriaeth.
Dyma’r siroedd yng Nghymru sydd yn yr Ardal Gydgyfeirio:
Ynys Môn , Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Tor-faen


Cynhelir y cyfweliadau ar Dydd Llun 29ain Rhagfyr


Os hoffech wneud ymholiadau anffurfiol, cewch gysylltu â’r Dr Amy Staniforth yn mws@aber.ac.uk neu 01970 622024
Dyfynnwch y Cyfeirnod AU 20003

Dyddiad cau am geisiadau 18fed Tachwedd 2010

KESS: Disgrifiad y prosiect

KESS: Ffurflen Gais