System Rheoli Cynnwys
Mae'r Brifysgol yn defnyddio System Rheoli Cynnwys (CMS) o'r enw Rheolwr Safle Terminal Four. Defnyddir Rheolwr Safle i greu, adolygu a chyhoeddi cynnwys i wefan y Brifysgol. Caiff yr holl waith golygu ei wneud trwy ffurflenni ar y we, gan ddefnyddio golygydd WYSIWYG (hynny a welir). Mae defnyddio CMS yn ein galluogi i wahanu strwythur ac edrychiad y tudalennau o'r cynnwys o fewn y tudalennau - nid oes raid i ddefnyddwyr wybod sut mae defnyddio HTML i allu creu gweddalennau sy'n edrych yn broffesiynol.
Os oes gennych wefan sydd angen ei chynnwys yn CMS neu os hoffech greu gwefan newydd yn CMS, cysylltwch â ni'n gynnar yn y broses er mwyn i ni allu eich cynorthwyo a'ch cynghori. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am CMS rydym yn barod i helpu.
Rhagor o wybodaeth