Myfyrwyr Bodlon yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes (NSS 2016)

10 Awst 2016

Cafodd Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth sgôr ardderchog o 95% am foddhad cyffredinol mewn arolwg o fyfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig sy’n sylweddol uwch na’r sgôr ar gyfer y DU.

Cafodd yr Ysgol gyfan ganlyniadau cadarn, gan sicrhau sgôr uchel o 89% am ansawdd yr addysgu ar ei chyrsiau yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2016.

Mae’r canlyniadau rhagorol yma yn rhan o lwyddiant ehangach Prifysgol Aberystwyth, sydd ar y brig yng Nghymru, ac ymhlith y deg uchaf yn nhabl sefydliadau addysg uwch y Deyrnas Unedig o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr, yn ôl yr arolwg blynyddol.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 92%, sef chwe phwynt canran yn uwch na ffigur y Deyrnas Unedig o 86%.

Meddai Prysor Mason Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes: “Mae’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn adran fach, gartrefol, lle mae pawb yn gweithio’n galed i gynnal cysylltiadau clòs rhwng staff a myfyrwyr.    Eleni, cawsom ein hethol yn Adran y Flwyddyn gan ein myfyrwyr, a hynny am yr eildro mewn pedair blynedd, ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod 95% o’n graddedigion yn gyffredinol fodlon gyda’n cyrsiau a’n darpariaeth.  Mae hyn yn tystio i’r partneriaethau cryf sydd o fewn yr adran, partneriaethau sy’n hanfodol ar gyfer cyrraedd y nod o sicrhau bod y myfyrwyr yn cyflawni’u potensial mewn amgylchedd cefnogol a chynhwysol.

“Rydym yn ymfalchïo yn llwyddiannau’n myfyrwyr, ac yn arbennig yn y ffaith bod 95% o raddedigion y llynedd mewn gwaith neu astudiaethau pellach, gyda 74% ohonynt mewn cyflogaeth lefel graddedig, sy’n dangos y gwerth a roir ar gyflogadwyedd trwy gydol ein cyrsiau.”

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn casglu data o 155 o Sefydliadau Addysg Uwch y Deyrnas Unedig, a chaiff ei gydnabod fel ffynhonnell ddylanwadol o wybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr wrth iddynt ystyried eu hopsiynau.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio yn Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth, a chanfod pam bod ein myfyrwyr mor fodlon gyda’n cyrsiau, yna nid yw’n rhy hwyr.  Mae gennym rai lleoedd clirio ar ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-17, neu dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored.

 

Mae ffigurau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn dod yn dynn ar sodlau ffigurau cyflogadwyedd diweddaraf Prifysgolion y Deyrnas Unedig, sy’n 

dangos bod 95% o raddedigion Addysg mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Prifysgol Aberystwyth.

 

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn flynyddol gan IPSOS Mori ar ran holl gynghorau cyllido addysg uwch y Deyrnas Unedig a chyrff eraill, ac mae’n gofyn barn tua 312,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.