Mrs Manon Lewis

BA Daearyddiaeth Prifysgol Lerpwl MA Daea

Mrs Manon Lewis

University Link Tutor - History / Geography

Ysgol Addysg

Manylion Cyswllt

Proffil

 

Wedi derbyn gradd MA mewn Daearyddiaeth a Datblygiad Economaidd o Brifysgol Llundain treuliodd Manon gyfnod yn teithio a gweithio yn y diwydiant lletygarwch cyn cwblhau cwrs TAR Uwchradd ym Mhrifysgol Aberystwyth.   Bu'n gweithio fel athrawes mewn Ysgol Uwchradd ddwyieithog am 13 mlynedd gan ymgymryd a amrywiaeth o gyfrifoldebau gan gynnwys Pennaeth Cyfadran, Pennaeth Blwyddyn a Phennaeth Cynorthwyol. Mae Manon wedi gweithio am flynyddoedd fel arholwr TGAU i CBAC ac  roedd yn arweinydd cynllun Asesiad Athrawon CA3. Roedd yn aelod o’r gweithgor oedd yn gyfrifol am lunio canllawiau y Cwricwlwm Cenedlaethol 2008. Mae ganddi ddiddordeb yn datblygu adnoddau dysgu blaengar a roedd yn gyd-awdures ar lyfr i ddatblygu sgiliau meddwl.   

Fe ddaeth Manon yn Diwtor TAR Hanes a Daearyddiaeth Ym mhrifysgol Aberystwyth yn 2013. Mae bellach yn gyfrifol am gyflwyno’r ddarpariaeth ar gyfer Maes Dysgu a phrofiad y Dyniaethau. Yn ogystal a hyn mae’n arwain ar y Modiwl Gwerthuso Dysgu a Sgiliau.

Cyhoeddiadau

Thomas, M, Rees, B, Evans, GE, Thomas, N, Williams, C, Lewis, B, Phillips, D, Hand, A, Bowen, S, Davies, AJ, Davies, P, Chapman, S, Reed, M & Lewis, M 2020, 'Teach Beyond Boundaries: The Conceptual Framework and Learning Philosophy of an Innovative Initial Teacher Education Programme in Wales', Wales Journal of Education, vol. 22, no. 1, pp. 114-140. 10.16922/wje.22.1.6
Chapman, S, Davies, P, Cann, R, Davies, AJ, Jeffery, J & Lewis, M 2018, The Impact of Academic Accreditation and Recognition on Teachers' Engagement with Professional Learning: A Literature Review. Prifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University.
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil