Cyrsiau Uwchraddedig

Manylion Pellach

 

 

MPhil a PhD

Rydyn ni'n falch o'n gwaith ymchwil ac yn croesawu myfyrwyr ymchwil uwchraddedig, o'r adran yn Aberystwyth ac o'r tu hwnt. Cwrs gradd ymchwil blwyddyn o hyd yw'r MPhil. Byddwch yn ysgrifennu traethawd hir 60,000 o eiriau ar unrhyw bwnc ym maes Addysg a/neu Astudiaethau Plentyndod, o dan oruchwyliaeth arbenigydd yn eich dewis bwnc. Cwrs gradd ymchwil tair blynedd o hyd yw'r PhD. Byddwch yn ysgrifennu traethawd estynedig 80,000-100,000 o eiriau ar unrhyw bwnc ym maes Addysg a/neu Astudiaethau Plentyndod, o dan oruchwyliaeth arbenigydd yn eich dewis bwnc.

DProf

Nod y Ddoethuriaeth Broffesiynol neu 'DProf' yw caniatáu i unigolion proffesiynol cymwysedig astudio tuag at ddoethuriaeth tra'n cynnal swydd. Gyda chefnogaeth gan Ysgol Graddedigion Aberystwyth, dyfernir DProf i'r sawl sy'n cwblhau rhaglen astudio a ddysgir yn llwyddiannus, ochr yn ochr ag astudio neu wneud gwaith ymchwil pellach. Er mwyn sicrhau perthnasedd, cysylltiad â'r byd go iawn a gwneud newidiadau ar sail polisi, gall yr ymchwil gysylltu'n uniongyrchol â'ch gweithle neu sefydliad.

MA Addysg (Cymru)

Mae ein gradd MA Addysg (Cymru) yn fenter a ddatblygwyd ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru ac sy'n arwain y maes. Mae'r rhaglen hon ar gael i athrawon sydd â Statws Athro Cymwysedig, o athrawon cymharol newydd i arweinwyr profiadol sy'n gweithio yn y sector addysg orfodol yn y DU ar hyn o bryd. Mae cyllid ar gael i athrawon sy'n byw yng Nghymru.

Byddem yn hapus iawn i ymateb i unrhyw ymholiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y llwybrau gradd hyn. Cysylltwch â Lucy Trotter (lut22@aber.ac.uk) i gael rhagor o wybodaeth.