Enillodd Faye ap Geraint radd Astudiaethau Plentyndod yn 2012. Mae hi bellach yn swyddog prosiectau yn adran Cymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol.

Paham y gwnaethoch chi ddewis astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Gan fy mod yn fyfyrwraig aeddfed, dewisais Brifysgol Aberystwyth oherwydd ei bod yn agos i fy nghartref a oedd yn golygu y gallwn astudio a bod yn rhiant ar yr un pryd. At hyn, fe wnaeth enw da Prifysgol Aberystwyth fy argyhoeddi y dylwn astudio yma.

Profiadau yr hoffech eu rhannu fel myfyrwraig aeddfed

Gan fy mod i’n fyfyrwraig aeddfed â phlant, roedd hi’n hanfodol cael cefnogaeth fy nheulu gartref. Roedd y gefnogaeth yma, yn enwedig gyda fy mhlentyn a oedd yn rhy ifanc i fynd i’r ysgol, yn hanfodol wrth fy ngalluogi i fodloni gofynion y cwrs. Ceir mwy o bwysau wrth astudio a bod yn rhiant ond mae’n talu ar ei ganfed. Yn fy mhrofiad i a’m cyd-fyfyrwyr aeddfed, mi ddywedwn ein bod ni’n griw eithaf penderfynol o fyfyrwyr a oedd wedi goresgyn sawl rhwystr i gyrraedd y brifysgol. Roedd astudio ar gyfer gradd yn uchelgais i mi ers tro, felly mwynheais bob eiliad o’r cyfle.

Ynglŷn â’r cwrs

Roedd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o agweddau ar ddatblygiad plentyn i hawliau plentyn. Roedd y cwrs yn cynnwys yr holl agweddau a ddymunwn o gwrs gradd, i ddysgu am wahanol agweddau ar blentyndod ar draws y gwahanol fodiwlau. Mae amrywiaeth y pynciau yn golygu bod mwy nag un deilliant posibl i’r cwrs. Mae’r darlithoedd yn ennyn diddordeb ac o gymorth. Mae’r adeilad a’r cyfleusterau newydd yn wych. Mae popeth yn fodern ac o’r radd flaenaf.

Fy hoff ran o’r cwrs

Mi wnaeth yr aseiniadau drwy gydol y tymor cyntaf a’r ail wella ein sgiliau darllen, deall ac ysgrifennu. Fy hoff ran oedd y traethawd estynedig a’m galluogodd i ddatblygu darn o waith wedi ei seilio ar fy niddordebau fy hun ac a ddatblygwyd yn ystod y cwrs. Roeddwn i’n hapus ac yn falch pan gyflwynais fy nhraethawd ac rwy’n cofio’r eiliad honno yn dda. Roedd hi’n anodd credu cymaint o wybodaeth yr oeddwn yn ei dysgu o’r cwrs. Roedd hi’n anodd iawn ar y dechrau ond roedd hi’n syndod pa mor gyflym yr oedd pethau’n llifo.

Cyngor angenrheidiol i fyfyrwyr sy’n dilyn y cwrs, yn eich barn chi

A bwrw eich bod wedi bod allan o addysg ers peth amser byddwn yn awgrymu prynu rhai llyfrau yn ymwneud â sgiliau astudio cyn dechrau yn y Brifysgol. Defnyddiwch yr amser yma i wella eich sgiliau astudio a fydd o fantais i chi cyn ichi ddechrau ar siwrnai gyffrous  a heriol yn y Brifysgol.

A fyddwn i’n argymell astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a phaham

Byddwn i’n bendant yn argymell Prifysgol Aberystwyth gan fod atgofion gorau fy mywyd yno ac yma hefyd y deuthum i adnabod cyfeillion gwych, pobl leol gynnes a chefnogol yn ogystal â staff gwybodus a chefnogol.