Enillodd Theo Evans radd Astudiaethau Plentyndod yn 2012. Aeth yn ei flaen i gwblhau cwrs TAR Cynradd ym Mhrifysgol Caerwrangon:

 

“Gan fy mod wedi dilyn y cwrs BA Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Aberystwyth, mi lwyddais i gael lle ar gwrs TAR ym Mhrifysgol Caerwrangon. Rwyf bellach wedi cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, a chael fy ngraddio yn ymarferwr ‘eithriadol’. Mae hyn, yn fy marn i, oherwydd yr addysg ragorol yn Aberystwyth a Chaerwrangon. Mae gennyf bellach swydd ac rwy’n gweithio fel athro blwyddyn un yn Ysgol Gynradd Wigmore, Swydd Henffordd”.