Dr Damian Walford Davies
Darllenydd a Phennaeth Adran
MA, MPhil, DPhil (Oxon)
Cyswllt
Ebost: dmw@aber.ac.uk
Swyddfa: D69
Rhif Ffon: +44 (0)1970 621781
Dysgu
Mae Damian yn addysgu Rhamantiaeth Seisnig; llenyddiaeth a gwleidyddiaeth yn oes y Chwyldro Ffrengig; barddoniaeth y bedwaredd ganrif a’r bymtheg a’r ugeinfed ganrif; a llenyddiaeth(au) Cymru.
Sesiwn Academaidd 2010-2011: dyfarnwyd Gwobr Datblygu Ymchwil yr Academi Brydeinig i Damian am Oxford Literary History of Wales, yr oedd yn Olygydd Cyffredinol arno.
Y Ganolfan Astudiaethau Rhamantiaeth
Damian yw Cyd-gyfarwyddwr, gyda Richard Marggraf Turley, y Ganolfan Astudiaethau Rhamantiaeth yn Aberystwyth, a lansiwyd yn swyddogol yn ystod cynhadledd ‘Romanticism, History, Historicism’ yn Aberystwyth ym mis Mehefin 2003 (gweler isod). Mae’r Ganolfan yn cynnig ‘llwybrau’ MA, rhaglenni o ddarlithoedd, cynlluniau cyllido a gweithgareddau addysgu / ymchwil eraill, ac yn trefnu ‘Darlith Landor’ a draddodwyd yn ystod y blynyddoedd diweddar gan yr Athro David Fairer a’r Athro Kenneth Johnston.
Ar y cyd â Richard Marggraf Turley, trefnodd Damian gynhadledd ‘Romanticism, History, Historicism’ yn yr Adran Saesneg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 18-22 Mehefin 2004. Roedd y cynulliad rhyngwladol hwn yn trafod y ffyrdd yr oedd dulliau Hanesyddegol wedi siapio ein dealltwriaeth o faterion megis rhyw, awduriaeth, ffurfio’r canon a'r berthynas rhwng testun, diwylliant a gwleidyddiaeth yn y cyfnod Rhamantaidd. Yn 2006, cyd-drefnodd Damian ail gynhadledd ryngwladol y Ganolfan Astudiaethau Rhamantiaeth, ‘Romanticism, Environment, Crisis’, oedd yn ystyried pwysigrwydd parhaus y testun Rhamantaidd mewn cyfnod pan fo newidiadau yn ein biosffer yn bygwth gwireddu pryderon proffwydol Rhamantiaeth.
Ym 1999, cynhyrchodd a chyfarwyddodd Damian recordiad CD triphlyg, R.S. Thomas Reading the Poems, oedd yn cynnwys y bardd o Gymru, a fu farw’r flwyddyn ganlynol, yn darllen detholiad eang o’i farddoniaeth yn rhychwantu’r cyfnod 1955-95.
Ymchwil
Ar hyn o bryd mae Damian yn cwblhau monograff â’r teitl Cartographies of Culture: Six Maps of Welsh Writing in English.
Gyda Mavis Nicholson a Trevor Fishlock, bu Damian yn feirniad Llyfr y Flwyddyn 2007.
Cyhoeddiadau
Rhamantiaeth
Mae Damian wedi cyhoeddi monograff yn archwilio’r cyd-destunau hanesyddol, gwleidyddol a diwylliannol a bennodd yr hunan Rhamantaidd mewn degawd chwyldroadol, Presences that Disturb: Models of Romantic Identity in the Literature and Culture of the 1790s (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002; cyd-enillydd Rhodd Goffa Foster Watson Prifysgol Aberystwyth 2003). Gyda’i gydweithiwr Richard Marggraf Turley, mae wedi golygu cyfrol o’r enw The Monstrous Debt: Modalities of Romatic Influence in Twentieth Century Literature (Wayne State University Press, 2006), a chyda Lynda Pratt (Prifysgol Nottingham), casgliad o draethodau ar ffiguro cymhleth Cymru yn y cyfnod Rhamantaidd, Wales and the Romantic Imagination (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007). Ef hefyd yw golygydd casgliad sy’n asesu ymyrraeth ac etifeddiaeth Hanesyddiaeth Newydd mewn Astudiaethau Rhamantiaeth, Romanticism, History, Historicism: Essays on an Orthodoxy (Routledge, 2008). Cyhoeddodd nifer o erthyglau ar lenorion Rhamantaidd gan gynnwys Wordsworth, Coleridge, Blake, Beckford, Hazlitt a De Quincey, ynghyd â golygiad o farddoniaeth William Wordsworth (Everyman, 1994).
Oxford Literary History of Wales
Damian yw Golygydd Cyffredinol yr Oxford Literary History of Wales arfaethedig, sy’n brosiect pwysig a ddaw a dwy lenyddiaeth Cymru, a ystyrir mewn golau newydd radical, i sylw cynulleidfa ryngwladol. Mae’r OLHW hefyd yn cynrychioli cydweithio pwysig ac amserol rhwng sefydliadau academaidd yng Nghymru.
Barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif a Llenyddiaeth(au) Cymru
Mae gwaith Damian ar farddoniaeth a rhyddiaith yr ugeinfed ganrif yn cynnwys erthyglau ar Yeats, R. S. Thomas, Alun Lewis, a Waldo Williams, ynghyd â’r casgliad golygedig, Echoes to the Amen: Essays After R. S. Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru, 2003; cyfranwyr yn cynnwys Geoffrey Hill a Rowan Williams), a golygiad o gasgliad o ryddiaith y bardd Cymraeg Waldo Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 2001; enillydd gwobrau 2002/2003 Ellis Griffith a L.W. Davies).
Barddoniaeth a Rhyddiaith Greadigol
Roedd casgliad cyntaf Damian o farddoniaeth, Whiteout (Parthian, 2006) wedi'i awduro ar y cyd â'i gydweithiwr Richard Marggraf Turley. Cyhoeddwyd ei gasgliad Suit of Lights gan Seren yn 2009. Cafodd Suit of Lights ei ddewis gan Gyfnewidfa Llên Cymru fel un o’i 10 teitl ‘Silff Lyfrau’ (yn cynrychioli’r gorau ymhlith ysgrifennu cyfoes o Gymru') ar gyfer y ffilm hyrwyddo, gweler http://www.cyfnewidfalen.org/authors.cfm?lan=e&switch=dsp&author_id=215. Mae ei gerddi wedi ymddangos mewn cyfnodolion gan gynnwys PN Review, Modern Poetry in Translation, Poetry Wales, Planet: The Welsh Internationalist, Carcanet’s OxfordPoets 2007: An Anthology, Scintilla, a The Wolf. Ar hyn o bryd mae wrthi’n cwblhau casgliad o’r enw Alabaster Girls. Mae Damian hefyd wedi golygu a chyfrannu at gasgliad o draethodau creadigol anffuglennol sy’n uno (seico-)ddaearyddiaeth, ysgrifennu taith a materion amgylcheddol: Megalith: Eleven Journeys in Search of Stones (Gomer, 2006); mae hefyd yn archwilio genre y stori arswyd (gweler ‘The Jumpers’, a gyhoeddwyd yn New Welsh Review, 88 (Haf 2010)).
CYHOEDDIADAU DETHOL
Monograffau:
Presences that Disturb: Models of Romantic Identity in the Literature and Culture of the 1790s (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2002); cyd-enillydd Rhodd Goffa Foster Watson Prifysgol Aberystwyth 2003 sy’n cydnabod ‘rhagoriaeth y gwaith gorau’ gan aelod o staff a gyhoeddwyd yn ystod y 5 mlynedd flaenorol.
Casgliadau Golygedig:
The Monstrous Debt: Modalities of Romantic Influence in Twentieth-Century Literature (Detroit: Wayne State University Press, 2004); gyda Richard Marggraf Turley. Traethawd Damian ei hun yn y gyfrol yw‘“In the Path of Blake”: Dylan Thomas’s “Altarwise by Owl-light”’.
Wales and the Romantic Imagination (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007); gyda Lynda Pratt. Teitl cyfraniad Damian ei hun i’r gyfrol yw‘“Sweet Sylvan Routes” and Grave Methodists: Wales i'n de Quincey’s Confessions of ân English Opium-Eater’.
Echoes to the Amen: Essays after R.S. Thomas (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2003). Teitl erthygl Damian ei hun yn y gyfrol yw‘“Double-entry Poetics”: R S Thomas - Punster’
Cof ac Arwydd: Ysgrifau Newydd ar Waldo Williams (Memory and Sign: New Essays on Waldo Williams); cyd-olygwyd gyda Jason Walford Davies (Barddas, 2006). Mae’r gyfrol yn cynnig asesiadau newydd radical o fardd gorau’r ugeinfed ganrif yn yr iaith Gymraeg, Waldo Williams.
Romanticism, History, Historicism: Essays on an Orthodoxy (New York: Routledge, 2009)
Golygiadau ysgolheigaidd:
William Wordsworth: Selected Poems (London: Dent, 1994)
Waldo Williams: Rhyddiaith (Waldo Williams: Prose Works; Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2001) – dyfarnwyd gwobrau Ellis Griffith a L.W. Davies 2002/2003 gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Dyfernir y gwobrau am y gyfrol fwyaf nodedig ar lenor neu artist o Gymru i ymddangos yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Detholiad o Erthyglau:
‘Cain and the “History” of Cradle Songs’, yn Romanticism, History, Historicism: Essays on an Orthodoxy, gol. Damian Walford Davies (Routledge, ar y gweill, 2008)
‘“Sweet Sylvan Routes” and Grave Methodists: Wales i'n Thomas De Quincey’s Confessions of ân English Opium-Eater’, yn Wales and the Romantic Imagination , gol. Damian Walford Davies a Lynda Pratt (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007), 199-227
‘“In the Path of Blake”: Dylan Thomas’s “Altarwise by Owl-Light”‘, yn The Monstrous Debt: Modalities of Romantic Influence in Twentieth-Century Literature (Wayne State University Press, 2006), 11–40
‘“At Defiance”: Iolo, Godwin, Coleridge, Wordsworth’ yn A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg, gol. Geraint Jenkins (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2005), 147–72.
‘“Cymodi â’r Pridd”: Wordsworth, Coleridge, a Phasg Gwaredol Waldo Williams’ (‘“Reconciliation with the Soil”: Wordsworth, Coleridge and Waldo Williams’s Easter Deliverance’), yn Cof ac Arwydd: Ysgrifau Newydd ar Waldo Williams (Barddas, 2006), 83–107
“‘Double-entry Poetics”: R.S. Thomas – Punster’ in Echoes to the Amen: Essays After R.S. Thomas, (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2003), 149–82
‘Waldo Williams, “In Two Fields”, and the 38th Parallel’ in The Idiom of Dissent: Protest and Propaganda i'n Wales, gol. T Robin Chapman (Gomer, 2006)
‘The Politics of Allusion: Caleb Williams, The Iron Chest, Middlemarch, and the Armoire de Fer’, Review of English Studies (Tachwedd 2002)
‘“The Frequencies I commanded”: Recording R.S. Thomas’. North American Journal of Welsh Studies 2:1 (Hydref, 2001/2002); fersiwn ar-lein: http://www.2.bc.edu/~ellisjg/vol2.htm
‘“A Mad Hornet”: Beckford’s Riposte to Hazlitt’, The European Romantic Review, Cyf. 10, Rhif. 4 (Hydref 1999) a Cyf. 11, Rhif. 1 (Gaeaf 2000), tt. 452-79 a 97-99 (gyda Laurent Châtel, o Université de la Sorbonne Nouvelle - Paris III)
In the Path of Blake: Dylan Thomas’s “Altarwise by Owl-light”, Sonnet I’, Romanticism 3.1 (1997), 91-110
‘Lucy’s Trodden Ways’, Essays in Criticism, Vol. XLVII, No. 1 (Ionawr 1997), 62-70
‘Hermits, Heroes, and History: Lamb’s “Many Friends”‘, The Charles Lamb Bulletin, New Series No. 97 (Ionawr 1997), 9-29
Cyfraniadau i Lyfrau, Gweithiau Cyfeiriol ac ati
Erthygl ar yr athronydd a’r damcaniaethwr gwleidyddol David Williams (1738-1816) ar gyfer New Dictionary of National Biography (2004)
Thomas De Quincey’s Confessions of an English Opium Eater’ yn The Blackwell Companion to Romanticism, gol. Duncan Wu (Oxford: Blackwell, 1997), 269-76
‘“Rewriting the Law-Books”: The Poetry of Popular Music’ yn Welsh Music History 1 (1996), 180–240
Cyfieithiadau
Y Ffisegwyr: cyfieithiad o ddrama Friedrich Dürrenmatt, Die Physiker (Aberystwyth: CAA, 1991)
Ysgrifennu Creadigol
Suit of Lights (Seren, 2009)
Whiteout (gyda Richard Marggraf Turley); casgliad o gerddi a gyhoeddwyd gan Parthian, 2006.
(gol.) Megalith: Eleven Journeys in Search of Stones (Gomer 2006): casgliad o draethodau creadigol anffuglennol.