Y Fforwm Hygyrchedd

Mae’r Fforwm Hygyrchedd wedi deillio o Fforwm Anabledd a gynhelir yn flynyddol gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Argymhellodd Pwyllgor Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb PA y dylai’r broses ymgynghorol hon sy’n ymwneud ag arfer da fod yn gylch gwaith i’r Brifysgol gyfan ac y dylai aelodau uwch o’r staff fod yn rhan ohoni. Dylai hefyd weithredu’n unol ag ymrwymiad PA i’r Cynllun Cydraddoldeb Anabledd.

Amcanion

Diben cyffredinol y Fforwm Hygyrchedd yw:

  • Hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl ym mhob strwythur a swyddogaeth y Brifysgol;
  • Mynd ati i annog aelodau o’r staff a myfyrwyr i gymryd rhan yn y fforwm hwn fel rhan o’r broses ymgynghorol;
  • Cynnig fforwm ymgynghorol i’r staff a’r myfyrwyr ynglŷn â gwasanaethau a swyddogaethau yn y Brifysgol;
  • Trafod y ffactorau sy’n rhwystro hygyrchedd ac ymgynghori ynglŷn â datrys problemau o’r fath, a chydnabod cynnydd a chyflawniadau i’r perwyl hwnnw;
  • Rhoi gwybodaeth i bobl am ddatblygiadau a chyngor, lle bo hynny’n briodol;
  • Trafod datblygiadau’r dyfodol a rhannu gwybodaeth amdanynt, e.e. gwaith ystadau, cwricwlwm cynhwysol, gwelliannau technolegol, gweithdrefnau ac arferion, ac ati;
  • Codi ymwybyddiaeth pawb ynghylch materion hygyrchedd ymhlith yr aelodau;
  • Hyrwyddo ymdeimlad o bartneriaeth rhwng darparwyr a defnyddwyr drwy godi ymwybyddiaeth ymhlith pawb ynghylch y posibiliadau a’r cyfyngiadau sydd ynghlwm wrth sicrhau ymrwymiadau a nodau sefydliadol mewn amgylchfyd Addysg Uwch.

Aelodaeth

  • Bydd y Fforwm Hygyrchedd yn cynnwys yr aelodau canlynol:
  • Cyfarwyddwr yr Adran Ystadau (neu gynrychiolydd)
  • Cyfarwyddwr yr Adran Adnoddau Dynol (neu gynrychiolydd)
  • Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gwasanaethau Gwybodaeth (neu gynrychiolydd)
  • Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr (neu gynrychiolydd)
  • Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwyr o’r Adrannau Academaidd
  • Rheolwr Mynediad Anabledd a Thrwyddedu Meddalwedd
  • Swyddogion Anabledd (penodol ac adrannol)
  • Ymgynghorydd Cydraddoldeb
  • Pennaeth y Gwasanaethau Tŷ
  • Pennaeth Diogelwch Ymgynghorydd Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd
  • Cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd
  • Cynrychiolydd o’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol
  • Cynrychiolydd o’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd
  • Cynrychiolydd o Fynediad i Gwricwlwm Dysgu Academaidd/Gwasanaeth Dyslecsia
  • Cynrychiolydd o blith y Porthorion
  • Cynrychiolydd o’r Gwasanaethau Preswyl
  • Cynrychiolydd o Urdd y Myfyrwyr
  • Cynrychiolydd o’r Undeb
  • Staff dethol sydd ag arbenigedd ym maes cydraddoldeb
  • Myfyrwyr a staff sy’n ymddiddori mewn cydraddoldeb i bobl anabl

Cyflwyno Gwybodaeth

Bydd y Fforwm Hygyrchedd yn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb drwy gofnodion.

Cyfarfodydd

Fel rheol, cynhelir y cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn (Ebrill a Hydref).

Mawrth 2009