Asesu'r Effaith ar Gydraddoldeb (AEaG)

Bydd llenwi ffurflen AEaG yn gyfle i ystyried sut mae penderfyniadau, polisïau a.y.y.b. yn effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig. Bydd hefyd yn sicrhau trywydd archwilio i'r Brifysgol, ac yn galluogi'r Brifysgol i ddangos bod ei phenderfyniadau yn cael eu hystyried ac yn deg. 

Dylai'r AEaG gael ei roi ar waith ar ddechrau'r broses o newid, neu ddrafftio polisi, gweithdrefn neu arfer newydd, er mwyn gallu ei ddefnyddio yn ystod y broses o benderfynu. Ni ddylid ei gyflawni fel ôl-ystyriaeth, ar ôl y broses o benderfynu. 

Darllenwch y canllawiau (v2.2) gellir gweld yma.

Mae'r ffurflen AEaG ar gael yma.

(Nid archwiliad llawn o effaith ar gydraddoldeb mo hwn, ond asesiad cychwynnol o'r effeithiau posibl all ddeillio gyflwyno neu newid arfaethedig i bolisi, gweithdrefn neu arfer.)

 

Asesu’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg – Safonau’r Gymraeg

Ochr yn ochr ag asesu’r effaith ar gydraddoldeb wrth ddechrau'r broses o newid, neu ddrafftio polisi, gweithdrefn neu arfer newydd, bydd angen hefyd asesu’r effaith ar yr iaith Gymraeg, yn ôl gofynion Safonau’r Gymraeg.

Ceir canllaw ar gyfer ystyried y Gymraeg wrth lunio neu ddiwygio polisi yma – Safonau’r Iaith Gymraeg – Polisïau

Bydd angen llenwi’r ffurflen Offeryn Asesiad Ardrawiad Iaith ac anfon y ffurflen wedi’i chwblhau at Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg – Canolfan Gymraeg (wlcstaff@aber.ac.uk).