Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb
Pwyllgor Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb
Cadeirir y Pwyllgor Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb, sef cydbwyllgor sy'n cynnwys aelodau o'r Cyngor a'r Senedd, un o’r Dirprwy Is-Gangellorion. Mae'n canolbwyntio'n strategol ar yr holl faterion sy'n ymwneud â chyfle cyfartal, gan gynnwys hyrwyddo cyfle cyfartal, llunio a monitro polisi, cynghori ar ddatblygiadau cyfreithiol a hybu/lledaenu arferion da. Mae'r Pwyllgor Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn.
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yw:
- Hyrwyddo cyfle cyfartal ac amrywioldeb ym mhob maes o weithgaredd y sefydliad.
- Llunio polisïau cyfle cyfartal y sefydliad a'r cynlluniau gweithredu sy'n deillio o hynny, gan gynnwys ei Gynllun Cydraddoleb sengl a Chynllun Gweithredu.
- Goruchwylio gweithrediad a datblygiad y fath bolisïau a chynlluniau gweithredu ac i fonitro eu gweithrediad.
- Cynhyrchu Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb ar gyfer y Cyngor.
- Cynghori'r Senedd a'r Cyngor ar ddatblygiadau ac ymarfer yn y gyfraith sy'n ymwneud â chyfle cyfartal.
- Hybu lledaeniad arferion da.
- Derbyn adroddiadau ar faterion perthnasol oddi wrth: yr Adran Adnoddau Dynol; y Pwyllgor Staffio; y Pwyllgor Derbyn a Recriwtio; Pwyllgor Cymorth i Fyfyrwyr.
Y mae'r aelodau yn cynnwys:
- Un o'r Dirprwy Is-Gangellorion (yn y Gadair)
- Un aelod wedi ei enwebu gan y Senedd, o blith ei aelodau ei hun
- Un aelod wedi ei enwebu gan y Pwyllgor Staffio, o blith ei aelodau ei hun
- Dau aelod wedi eu henwebu gan y Cyngor, o blith ei aelodau ei hun
- Un myfyriwr wedi ei enwebu gan Urdd y Myfyrwyr
- Un aelod wedi ei enwebu gan y JUCC
Yn gweinyddu:
- Y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd
- Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
- Cyfarwyddwr Cymorth i Fyfyrwyr
- Ymgynghorydd Cydraddoldeb (neu ddirprwy a enwebwyd gan y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd)
