Amrywiaeth yn y Gweithle

Cyflwyniad

Mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu hyfforddiant gorfodol i’w staff ar gyfer:

  • ymgyfarwyddo â deddfwriaeth cydraddoldeb
  • meithrin dealltwriaeth o’r materion ehangach sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb/amrywiaeth
  • cynyddu ymwybyddiaeth am eu cyfrifoldebau a’u hawliau fel aelodau staff
Mewngofnodi i Cwrs

Caiff yr hyfforddiant ei ddarparu ar ffurf tiwtorial ar-lein. Gellir ei gyflawni mewn un eisteddiad neu fesul adrannau llai fel sy’n gyfleus ichi. Rhaid cwblhau’r cwis sy’n rhan o’r rhaglen er mwyn gorffen yr hyfforddiant. Bydd marciau’r cwis yn cael eu cadw a’u defnyddio i weld beth yw anghenion pellach staff o ran hyfforddiant.

Rhoddwyd cyfrinair dros-dro i bob defnyddiwr er mwyn cael mynediad i’r system ond bydd angen ichi newid hwn y tro cyntaf y byddwch yn mewngofnodi. Gallwch wneud hyn trwy ddewis ‘Cyfrinair’ o’r ddewislen. Newidiwch y cyfrinair i rywbeth sy’n berthnasol i chi ac y gallwch ei gofio. Pwysig – ni ddylech ddefnyddio’r un cyfrinair â’r un yr ydych chi’n ei ddefnyddio i’ch cyfrif ebost yn y Brifysgol. Hoffem eich atgoffa y dylech ddiogelu eich cyfrinair ac na ddylech ei rannu ag eraill.

Dylech fewngofnodi trwy ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ebost: eich cyfeiriad ebost ym Mhrifysgol Aberystwyth, e.e. abc@aber.ac.uk

Cyfrinair: A fyddech cystal â rhoi’r gair ‘Password’ (yn saesneg) fel y cyfrinair diofyn. Ar ôl gwneud hyn newidiwch eich cyfrinair i rywbeth sydd yn gofiadwy i chi yn unig.

Dechrau'r Tiwtorial
Cydnabyddiaeth

Hoffem ddiolch i’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol am gefnogi’r rhaglen Amrywiaeth yn y Gweithle.

Mae’r tiwtorial ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Cyllidwyd y rhaglen Gymraeg gan Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a Sefydliad Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru. Trefnwyd y cyfieithiad a thestun yr adrannau am y Cynllun Iaith gan staff Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Anogir staff i wneud y rhaglen yn Gymraeg lle bo’n bosibl.

Os cewch unrhyw broblemau wrth ddefnyddio’r tiwtorial cysylltwch â Ms. Olymbia Petrou ( equality@aber.ac.uk ) ar est 8598 neu Advisory (is@aber.ac.uk) ar ext 2400.