Amacanion Cydraddoldeb Prifysgol Aberystywth Cynllun Strategol Cydraddoldeb: Ebril 2012 - Mawrth 2016

Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym bob amser yn ymdrechu i sicrhau bod myfyrwyr, staff ac ymwelwyr â’r Brifysgol yn cofleidio gwir gydraddoldeb ac amrywioldeb gan eu bod yn rhan hanfodol o’r ffordd mae’r Brifysgol yn gweithredu o ddydd i ddydd, ac maent wedi eu hymgorffori yn ein holl weithgareddau.

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd sy’n rhoi gwerth ar bob un ohonom ni fel unigolion, lle gall staff a myfyrwyr weithio, dysgu, ffynnu a datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth gydag urddas a pharch, heb ofni cael eu trin yn llai ffafriol.

Mae ein Hamcanion Cydraddoldeb yn dangos sut byddwn yn cynnal ac yn hyrwyddo amrywioldeb a chyfle cyfartal fel bod ein cymuned yn ffynnu, er budd datblygiad yr unigolyn a’r sefydliad.

AMCAN 1

YMGORFFORI A HYRWYDDO CYDRADDOLDEB AC AMRYWIOLDEB: drwy hyfforddiant, arweinyddiaeth a chyfathrebu.   Er mwyn meithrin diwylliant wedi’i seilio ar urddas, cwrteisi a pharch, byddwn yn hyrwyddo gwerthoedd craidd cydraddoldeb fel eu bod yn sail i ymddygiad cadarnhaol ac yn darparu fforwm i drafod y gwerthoedd hyn ar gyfer staff a myfyrwyr.
AMCAN 2  CASGLU A MONITRO DATA: er mwyn darparu sylfaen o dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau.  Drwy adolygu trefniadau ar gyfer casglu data gan staff a myfyrwyr ar y nodweddion  gwarchodedig byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth ansoddol a meintiol ar gael i lywio ein penderfyniadau.
AMCAN 3
  DATBLYGIAD STRATEGAETH A PHOLISI’R BRIFYSGOL: er mwyn sicrhau cynhwysiad a thryloywder.  Drwy hyrwyddo a dathlu ein amgylchedd amrywiol a chynhwysol byddwn yn sicrhau lles staff a myfyrwyr, a thrwy hynny alluogi iddynt gyflawni eu gwir botensial. Byddwn yn adolygu polisïau a threfnweithiau er mwyn adeiladu ar ein amgylchedd gweithio positif ac yn ymgorffori egwyddorion cydraddoldeb yn Siarter y Myfyrwyr.
AMCAN 4
  AMGYLCHEDD: gwella hygyrchedd yr amgylchedd corfforol a rhithwir.  Drwy ddarparu amgylchedd cynhwysol ar gyfer dysgu, gweithio ac ymweld byddwn yn dangos pwysigrwydd hygyrchedd i bawb.
AMCAN 5  ALLANOL: codi ymwybyddiaeth o ymrwymiad y Brifysgol i gydraddoldeb.  Gan weithio gydag ymwelwyr, partneriaid, cyflenwyr a’n cymuned leol a byd-eang, byddwn yn cymryd camau gweithredol i hyrwyddo a gwella cydraddoldeb.