Datganiad yr Is-Ganghellor

Annwyl Gydweithwyr,
E-ddysgu am Amrywioldeb
Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym wedi ymrwymo i hybu amrywioldeb a chyfle cyfartal, ac i werthfawrogi doniau a chyfraniadau pawb. Rydym yn cydweithio er mwyn datblygu sefydliad sy’n gynhwysol ac sy’n gweld gwerth yn natur amrywiol ein staff, ein myfyrwyr a’n cymuned. Er mwyn helpu cydweithwyr i ddeall a choleddu egwyddorion a gwerthoedd cydraddoldeb ac amrywioldeb, rydym wedi cyflwyno cwrs e-ddysgu dwyieithog ar amrywioldeb. ‘Amrywioldeb yn y Gweithle’, i’n staff i gyd. Diben y cwrs e-ddysgu arloesol hwn yw rhoi’r wybodaeth i chi i’ch helpu chi yn eich gwaith ac mae’n cynnwys modiwlau ar feysydd cydraddoldeb, gwybodaeth am y gyfraith a pholisi, ac erthyglau newyddion. Hyd yn oed os ydych wedi gwneud y cwrs o’r blaen, dylech nodi ei fod wedi newid erbyn hyn er mwyn ymgorffori meddalwedd newydd, diweddariadau o ran polisi, a newidiadau yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Rwyf yn eich annog i fewngofnodi a dilyn y sesiwn e-ddysgu, ac rwy’n siŵr y byddwch yn cael y cwrs yn ddiddorol a defnyddiol.
Dymuniadau gorau,
Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor a Phrifathro