Trawsgrifiad o'r Fideo
Mae myfyrwyr, staff ac ymwelwyr, sy’n cynrychioli ystod eang pobl ein cymuned ac amrywiaeth o weithgareddau’r brifysgol, yn gwneud datganiadau sy’n disgrifio ein ffocws cynhwysol ar gydraddoldeb ac amrywioldeb ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae pob cyfrannwr yn dweud ei linell mewn lleoliad sy’n berthnasol iddo ef neu iddi hi.
Mae cydraddoldeb a amrywioldeb wrth wraidd popeth ni’n wneud…
Dyma'r Cynllun Cydraddoldeb sy’n nodi ar bapur ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chydraddoldeb.
Mae'n dweud sut y galla i ddisgwyl cael fy nhrin yma…
ac yn dweud beth sy’n cael ei ddisgwyl GEN I, yn y ffordd rwy’n delio â phobl eraill…
mae gyda ni dros wyth mil a hanner o fyfyrwyr a dwy fil o aelodau staff yma yn y brifysgol, yn dod o 100 o wledydd wahanol…
ac, wrth gwrs, mae ‘na lawer o ymwelwyr…
mae gan bawb ohonon ni hawliau a chyfrifoldebau…
mae hyd yn oed y rhai fel ni sy 'mhell o'r campws yn dal yn rhan o’r gymuned. Helo Aberywstwtyh!
Mae'r Cynllun Cydraddoldeb yn sicrhau bod Cymuned y Brifysgol yn gweithredu gyda gwir gydraddoldeb ac amrywioldeb…
er mwyn meithrin amgylchedd sy'n rhoi gwerth ar bob un ohonon ni fel unigolion…
sy’n ein trin â thegwch a dealltwriaeth..
gydag urddas a pharch…
ble cewch eich annog i gyflawni eich potensial drwy ddefnyddio’ch cryfderau…
i feithrin amgylchedd lle gallwn weithio, dysgu a ffynnu…
lle gallwn ddatblygu’n sgiliau a'n gwybodaeth…
heb ofni cael ein trin yn llai ffafriol…
heb ystyried hil na chred…
rhyw, trawsrywioldeb na gogwydd rhywiol…
anabledd neu oedran.
Mae hwn yn fwy na datganiad syml o sut mae Prifysgol Aberystwyth yn ymateb i anghenion cyfreithiol. Mae’n arddangos fod cydraddoldeb yn rhan hanfodol o sut mae’r brifysgol yn gweithredu o ddydd i ddydd.