Cyfrifon Taladwy
Mae'r tîm taliadau yn gyfrifol am daliadau cyflenwyr, treuliau staff, myfyrwyr a thaliadau rhyngwladol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch trafodion cardiau prynu, cysylltwch â'r swyddfa hon yn y lle cyntaf.
Taliadau i Unigolion
Rhaid i bob taliad i unigol gael ei wneud gan ddilyn y rheolau HMRC isod ac rydym felly yn mynnu bod pob taliad o’r fath yn amodol ar gwblhau’r holiadur isod neu lythyr ffurfiol o’r awdurdodau treth sy’n datgan bod unrhyw waith a wneir ar gyfer y Brifysgol ar sail hunan gyflogedig. Mae’n orfodol arnom nawr cael proses mewn lle i ddal y fath wybodaeth cyn y gwneir penderfyniad ynglŷn â thalu yn gros neu drwy’r Swyddfa Cyflogau, gweler y nodiadau canllaw isod.
Dylid cyfeirio unrhyw gwestiwn ar y mater hwn i naill ai Stephen Humphreys est. 8656 neu Martin Davies est. 2033.
- Holiadur Statws Cyflogaeth
- Canllaw HMRC/ HMRC Guide
- Canllaw Statws Cyflogaeth