Mae’r canllawiau isod yn berthnasol i aelodau o staff sy’n teithio at ddibenion busnes y Brifysgol - Rhagfyr 2012
Teithio a chynhaliaeth - Cyn Rhagfyr 2012
Cais Am Gostau Teithio a Chynhaliaeth - Rhagfyr 2012
Noder – os yw’r cais yn cael ei dalu o grant a ariennir gan gyllid allanol, bydd cyfyngiadau’r grant hwnnw yn drech na chyfyngiadau’r Brifysgol os byddant yn wahanol (dylid darparu manylion am y grant a’r rheswm pam fod gwahanol gyfraddau’n cael eu hawlio gyda’ch cais).
Os bydd costau, dylid llenwi ffurflenni cais bob mis o leiaf. Ni fydd y Brifysgol yn ad-dalu ceisiadau os cyflwynir y cais mwy na thri mis ar ôl y gwariant. Mae ffurflenni cais ar gael ar fewnrwyd y Brifysgol yn: http://www.aber.ac.uk/cy/finance-office/information-for-staff/forms/
Teithio
Pan fyddwch yn teithio mewn car mae'n debygol y bydd yn rhatach defnyddio car llog ar gyfer teithiau dros 100 milltir. (Sylwch fod cyfraddau ffafriol ar gael gan Europcar <http://www.europcar.co.uk/>)
Pan fyddwch yn defnyddio car llog, er mwyn gwneud yn siŵr bod yswiriant y Brifysgol yn darparu sicrwydd ar eich cyfer, rhaid eich bod yn yrrwr awdurdodedig sydd wedi’i gofrestru gyda’r Swyddfa Gyllid. Cysylltwch â Stephen Humphreys tsh@aber.ac.uk
Nodyn pwysig ynghylch cyfrifo lwfans milltiroedd
|
|
Y 100 o filltiroedd busnes cyntaf |
Dros 100 o filltiroedd busnes |
|
Ceir |
40c |
20c |
|
Beiciau Modur |
20c |
10c |
SYLWCH: Dylai staff sicrhau bod eu hyswiriant yn caniatáu iddynt ddefnyddio’u car ar gyfer busnes y Brifysgol, ac ni ddylent gludo teithwyr oni bai bod y polisi’n caniatáu iddynt wneud hynny. Os oes mwy nag un aelod staff yn mynd i’r un cyfarfod, disgwylir iddynt deithio yn yr un car.
Cynhaliaeth
Dylech hawlio’r gwariant gwirioneddol hyd at y cyfraddau uchaf a nodir isod. Bydd angen derbynebau ar gyfer pob eitem, ac eithrio mân gostau na fyddai’n ymarferol cael derbynneb ar eu cyfer (hyd at £5.00 y noson). Os bydd staff yn hawlio costau gwely a brecwast a phryd nos, cyfyngir y cais i’r gwerth cyfunol e.e. £142 + £18 =£160 ar gyfer Llundain. Felly, er enghraifft, fe allech hawlio £20 am bryd o fwyd a hyd at £140 am lety).
Polisi Alcohol
Cydnabyddir y gall staff ddymuno cael alcohol gyda’u pryd nos. Mae hyn yn dderbyniol cyhyd â bod y gwariant yn rhesymol (hyd at hanner potel o win y person)
|
Cynhaliaeth |
Tu allan i Lundain |
Llundain a Thramor |
|
Gwely a Brecwast |
£99.00 |
£142.00 |
|
Pryd Nos |
£18.00 |
£18.00 |
|
Brecwast neu Bryd canol dydd |
£10.00 |
£10.00 |
|
Cyfradd ddyddiol am fân gostau personol – heb dderbynebau |
£5.00 |
£5.00 |
|
Lwfans Llety (sylwch – bydd y lwfans yn cael ei dalu gyda chyflog yr aelod staff, a bydd treth yn daladwy) |
Tu allan i Lundain |
Llundain a Thramor |
|
Llety |
£56.00 |
£56.00 |
|
Gyda theulu neu ffrindiau (gan gynnwys gwely a brecwast a phryd nos) Sylwch – bydd y lwfans yn cael ei dalu gyda chyflog yr aelod staff, a bydd treth yn daladwy |
£25 |
£25 |
|
Cyfradd ddyddiol am fân gostau personol – heb dderbynebau |
£5.00 |
£5.00 |
|
Cwrs Hyfforddi Preswyl |
Tu allan i Lundain |
Llundain a Thramor |
|
Cyfradd ddyddiol am fân gostau personol – heb dderbynebau |
£5.00 |
£5.00 |
|
Cynhaliaeth Dydd |
|
|
|
5-10 awr |
10.00 |
|
|
Dros 10 awr |
23.00 |
|
C&thEM ffurflen P87
Cynigir y Brifysgol pedwar ystafell fideogynadledda. Mae manylion llawn ar gyfer rhain ar gael o : www.aber.ac.uk/cy/is/media/vidconf/
Cyn trefnu taith gallwch cysidro os gallwch defnyddio fideogynadledda fel arallddewis i trafeilio.