Gwasanaethau Yswiriant - Staff
Teithio Dramor
Bydd angen i chi gael Tystysgrif Teithio oddi wrth y Swyddfa Gyllid. Anfonwch e-bost at finance@aber.ac.uk yn nodi’r manylion isod ac fe drefnir tystysgrif ar eich cyfer.
- Y dyddiadau teithio
- Y gwledydd y byddwch yn ymweld â nhw
- Diben yr ymweliad
Dylai unrhyw aelod staff sydd am deithio i rannau o’r byd a allai fod yn ‘beryglus’ gysylltu â’r Is-adran Yswiriant i gael cyngor, a darllen y wybodaeth am deithio ar wefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad i gael y newyddion diweddaraf.
Sylwadau teithio peryg diweddar
- 06 Sept 2012 Lebanon
- 03 Sept 2012 Pakistan
- 30Aug 2012 Current risk changes
- 14 Aug 2012 Yemen
- 14 Aug 2012 Japan
- 14 Aug 2012 Russia
Gyrru Dramor
Anfonwch e-bost at finance@aber.ac.uk yn nodi’r manylion a ganlyn:
- Y dyddiadau teithio
- Y gwledydd y byddwch yn ymweld â nhw
- Gwneuthuriad y car a’r categori yswiriant
- Rhif cofrestru’r car
- Diben yr ymweliad
Yn eich e-bost, bydd gofyn i chi gadarnhau hefyd eich bod yn yrrwr cofrestredig.
Gyrwyr Awdurdodedig y Brifysgol
Rhaid i bob Adran gadw rhestr gyfoes o ffurflenni cais yr holl yrwyr sy’n gyrru cerbydau’r Brifysgol neu gerbydau llog ar ran y Brifysgol a rhaid darparu copi i’r swyddfa yswiriant. Cyn bod aelod staff yn gyrru un o gerbydau’r Brifysgol neu’n llogi cerbyd, dylai ddarparu copi o’i drwydded yrru i’w Adran. Dylai fod gan yrwyr drwydded yrru lawn ers o leiaf ddwy flynedd cyn gyrru cerbydau’r Brifysgol neu gerbydau llog at ddibenion busnes, a rhaid i unrhyw un a chanddo 6 phwynt neu ragor ar ei drwydded ddarparu copi o’i drwydded i’r swyddfa yswiriant cyn llogi neu yrru cerbyd. Bydd angen i’n cwmni yswiriant gymeradwyo’r drwydded.
Categorïau o Yrwyr Awdurdodedig
1. Gyrwyr bysiau mini.
Rules and regulations on the use of minibuses for University business.
2. Tractorau a beiciau cwad ac ati.
Unrhyw berson sydd â hawl gyfreithiol i yrru ac sydd wedi cael hyfforddiant diogelwch priodol. Caiff myfyrwyr eu gyrru cyhyd â bod yr Adran wedi rhoi caniatâd arbennig.
3. Myfyrwyr sy'n yrwyr
Cyhyd â bod yr Adran wedi rhoi caniatâd arbennig, eu bod yn 21 oed o leiaf a bod radiws cyfyngedig o 30 milltir ar waith. Rhaid i unrhyw ganiatâd arall gael ei gymeradwyo gan Swyddfa Yswiriant y Brifysgol yn y Swyddfa Gyllid.
4. Cerbydau nwyddau trwm (HGV)
Cyhyd â bod y rheoliadau cyfreithiol priodol yn cael eu bodloni ac nad oes gan y gyrrwr awdurdodedig unrhyw broblemau meddygol nad ydynt wedi'u datgelu, caniateir iddo yrru ar ôl cael yr hyfforddiant diogelwch arferol.
5. Defnydd Personol
Mae polisi yswiriant modur y Brifysgol dim ond yn caniatau clawr ar gyfer 'defnydd busnes' yn unig a bydd unrhyw defnydd arall yn dirymu'r clawr, os bydd angen cymeryd cerbyd gartref ar gyfer cychwyn siwrne busnes yn gynnar yn y bore i osgoi traveilio i fewn i'r campws i codi'r cerbyd a gwastraffu amser yna bydd hyn yn ganiataol. Bydd unrhyw defnydd arall yn golygu elwa mewn da ac bydd yn golygu addasiad eich cod treth a dychweliad i'r Swyddfa Trethi.
Damweiniau
Mae bod yn rhan o ddamwain yn codi braw, ond mae’n bwysig cadw’ch pen a chymryd y camau a ganlyn:
Lleoliad y ddamwain –
- Ffoniwch 9-9-9
(neu rif sy’n cyfateb i 911 dramor) i sicrhau bod unrhyw un sydd wedi’i anafu’n cael mynd i’r ysbyty ar unwaith. Dylech gyfnewid gwybodaeth gyda’r gyrrwr arall: gwnewch yn siwr eich bod yn cael ei enw, ei gyfeiriad, ei rif ffôn, rhif cofrestru’r cerbyd a gwybodaeth am ei yswiriant (enw’r cwmni, y rhif polisi a’r rhif ffôn). Os nad oes gan y gyrrwr yswiriant, mae’n arbennig o bwysig cael gafael ar yr holl wybodaeth arall amdano.
2. Casglwch wybodaeth gan lygad-dystion: gofynnwch am enwau a rhifau ffôn unrhyw dystion a allai fod wedi gweld y ddamwain. Gallent fod yn bwysig er mwyn ategu’ch stori maes o law, yn enwedig os na fydd y gyrrwr arall yn dweud y gwir.
3. Os yw’r heddlu’n dod i leoliad y ddamwain, gofynnwch am enw a rhif bathodyn y swyddog sy’n ymchwilio i’r ddamwain: gall fod angen i chi gysylltu ag ef yn ddiweddarach i gael ei adroddiad swyddogol.
4. Cadwch at y ffeithiau: peidiwch â dweud “mae’n flin gen i” neu gyfaddef mai chi oedd ar fai am y ddamwain (hyd yn oed os ydych yn credu mai chi oedd ar fai). Peidiwch â cheisio darbwyllo’r person arall i gyfaddef ei fod ar fai. Lle’r heddlu a’r cwmnïau yswiriant yw penderfynu pwy oedd ar fai.
5. Os oes gennych gamera neu ffôn â chamera, tynnwch lun o’r lleoliad a’r difrod i’r ddau gerbyd.
Ar ôl y ddamwain
Cysylltwch â Swyddfa Gyllid Prifysgol Aberystwyth, estyniad 8586
Cyflwyno hawliad i’r cwmni yswiriant
Bydd angen rhoi gwybod ar unwaith i weinyddydd eich adran am unrhyw ddigwyddiad, yn ogystal â rhoi gwybod i’r Is-adran Yswiriant yn y Swyddfa Gyllid drwy ffonio (01970) 628656 neu 622027.
Gallwch lwytho ffurflen hawlio am ddamwain i lawr o’r rhestr isod neu gall Is-adran Yswiriant y Swyddfa Gyllid anfon copi atoch. Dylech ei dychwelyd i’r Is-adran i’w phrosesu.
Hawliadau yswiriant
Dylech roi gwybod i’r Swyddfa Gyllid am unrhyw ddigwyddiad a allai arwain at hawliad yswiriant cyn gynted â phosibl ar ôl iddo ddigwydd. I wneud hynny, anfonwch e-bost at finance@aber.ac.uk yn rhoi manylion cryno am y digwyddiad a bydd rhywun o’r Swyddfa Gyllid yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl os oes angen rhagor o fanylion.
Gyrru eich cerbyd eich hun at ddibenion busnes y Brifysgol
Dylech ddarllen eich polisi yswiriant eich hun i sicrhau ei fod yn caniatáu i chi ddefnyddio’ch cerbyd at ddibenion busnes – peidiwch â chymryd yn ganiataol ei fod!! Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich cerbyd mewn cyflwr addas i’w ddefnyddio ar y ffordd.
Rheoli Risgiau ar y Ffordd - Managing Occupational Rad Risks
Crynodeb o’r polisïau yswiriant
Mae manylion llawn am sicrwydd yswiriant o ran -
- Moduron
- Gyrwyr awdurdodedig
- Defnyddio’ch cerbyd eich hun at ddibenion busnes y Brifysgol
- Cerbydau llog
- Gyrwyr bysiau mini
- Damweiniau Personol a Theithio
- Atebolrwydd y Cyflogwr
- Indemniad Proffesiynol
- Treialon Clinigol
- Atebolrwydd Cyhoeddus a Chynnyrch
- Eiddo
- Eiddo Cyffredinol
- Arian
- Tarfu ar Fusnes
- Cyfrifiaduron a Diogelwch Cyfrifiaduron
- Difrod i Eiddo Peirianyddol
- Arolygu Peirianyddol
- Terfysgaeth
- Ffermydd
ar gael ar safle Sharepoint yr Adran Gyllid.
Eiddo personol ac yn y blaen yn Swyddfeydd y Brifysgol ac yn y blaen.
Union eiriau y ddogfen Polisi -
'to the extent that they are not otherwise covered directors, members of governing bodies, employees, students and visitors, personal effects including clothing, pedal cycles, tools, instruments and the like for an amount not exceeding £1,000 per person but any cover granted under this section for damage by theft shall not apply to personal effects partly or wholly of precious metal jewellery, watches, furs, contact lenses, portable electronic entertainment equipment or computer equipment, cameras, money and securities of any description'.
Os cewch unrhyw anhawster wrth geisio cael mynediad at y safle, cysylltwch â’r swyddfa Gwasanaethau Yswiriant ar estyniad 8656.
Ffurflenni hawlio
Canslo neu gwtogi - Cancellation or Curtailment
Costau meddygol - Medical Expenses
Oedi neu golli ymadawiad - Travel - Delay or Missed Departure
Damwain bersonol - Personal Accident
Eiddo personol ac arian - Personal Effects and Money
Damwain Angheuol - Fatal Accident
Ffurflen Hawlio yr NFU - NFU Motor Claim
Tystysgrifau yswiriant
Pob risg Contractwr - Contractor's All Risks 2011-12
Eiddo - Property Damage 2011-12
Atebolrwydd cyhoeddus a'r cyflogwr - Employer's & Public Liability 2011-12
Indemniad proffesiynol - Professional Indemnity 2011-12
Teithio - Travel Policy 2011-12
Moduron - Motor Policy 2011-12
Tractorau - Tractor Policy 2011-12
Ffermydd - 2011-12 Farms Policy