E-Dendro

Mae proses dendro electronig yn hwyluso’r broses dendro yn ei chyfanrwydd, o hysbysebu’r gofynion i ddyfarnu’r contract ar gyfer unrhyw gaffaeliad a weinyddir drwy’r Swyddfa Gaffael. Gweithredir y broses e-dendro hon drwy wefan e-dendro Bravosolution. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo’r holl ddogfennau perthnasol yn electronig. Dyma esboniad llawnach am y ddwy weithdrefn y gellir eu defnyddio:

  • Y Weithdrefn Agored 
  • Y Weithdrefn Gyfyngedig

Wrth gyflwyno e-dendr, bydd angen gwneud asesiad risg cynaliadwyedd. Bydd hyn yn gymorth i integreiddio materion yn ymwneud â chynaliadwyedd i brosesau prynu nwyddau neu wasanaethau. Gall y swyddfa Gaffael gynnig cymorth pellach os oes angen.