Darllenwch yn ofalus iawn
Mae GeM yn caniatáu i chi gael mynediad at storfa ganolog o gontractau a chytundebau i ateb rhai o’ch gofynion prynu mwyaf cyffredin. Mae’r gwahanol gytundebau’n benodol i’r Sector Addysg Uwch gan mwyaf ac fe’u negodwyd gan Gonsortia arweiniol (sy’n gweithio ar ran y sector ar gyfer nwyddau a/neu feysydd gwasanaeth penodol) neu gan Gonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW), fel y bo’n briodol.
Sylwch fod yr holl ddata yr ydych yn cael gafael arno drwy GeM, gan gynnwys prisiau a gwybodaeth arall sy’n fasnachol sensitif, yn cael ei ddarparu ar sail gyfrinachol fasnachol ac ni chaniateir ei rannu ag unrhyw drydydd parti heb ganiatâd cydgysylltydd y cytundeb perthnasol.
Mae nifer o’r contractau ar system GeM yn ‘gytundebau fframwaith’. Yn ddiweddar, mae’r UE wedi newid y gyfraith ynghylch cytundebau yn ôl y galw o dan fframweithiau; dylech ymgyfarwyddo â’r ‘rheolau ymgysylltu’ o ran cytundebau fframwaith cyn cyrchu gwybodaeth o GeM. Mae canllaw sylfaenol ynghylch defnyddio fframweithiau yn unol â chyfraith newydd yr UE ar gael drwy ddefnyddio’r ddolen ar y dudalen hon. Fel arall, fe welwch fod fframweithiau ar GeM hefyd yn tynnu’ch sylw at yr amodau sy’n rheoli defnydd ohonynt, fel mater o drefn. Gall y Rheolwr Caffael hefyd roi rhagor o gyngor ac arweiniad yn ôl y gofyn.
Darperir rhai cytundebau Prifysgol ‘lleol’ hefyd (e.e. cyfraddau llogi ceir corfforaethol Europcar). Os oes gan ddefnyddwyr drefniadau neu gynigion sefydlog ‘lleol’ gyda chyflenwyr (y maent yn credu y byddent o fudd i adrannau eraill Prifysgol Aberystwyth), cysylltwch â Mike Smith, y Rheolwr Caffael, i drefnu i fwydo’r cytundebau hynny i system GeM.
Sylwch mai’r cydgysylltydd/Consortia arweiniol sydd wedi trefnu’r cytundeb sy’n gyfrifol am yr holl ddata a gedwir ar GeM (ac eithrio cytundebau ‘lleol’) ac ni all y Rheolwr Caffael warantu cywirdeb unrhyw wybodaeth o’r fath. Cydgysylltwyr y cytundebau sy’n gyfrifol am gynnal y wybodaeth honno. Os cewch hyd i unrhyw wybodaeth anghywir, dylech gysylltu’n uniongyrchol â chydgysylltydd y cytundeb priodol.
Mae GeM yn cynnwys e-diwtorial ar-lein ac awgrymir bod defnyddwyr newydd yn cael golwg arno (ewch i waelod hafan GeM). Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynghylch GeM, cysylltwch â thîm Procureweb ar
02920870333 neu team@procureweb.ac.uk