Adolygiad PPPRS 2007

“…Mae’r dudalen hon yn ymwneud ag Adolygiad 2007 o’r Prosesau, Gweithdrefnau, Rheoliadau a Systemau Pwrcasu. Fel y mae’r teitl yn awgrymu, bydd yr adolygiad hwn yn pwyso a mesur yn fanwl y trefniadau prynu sydd ar waith ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda golwg ar newid, gwella a moderneiddio’r trefniadau er budd y Brifysgol ac er mwyn sicrhau gwerth am arian.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi pwyslais mawr, fel rhan o’r agenda ‘Creu’r Cysylltiadau’, ar sicrhau arbedion ac effeithlonrwydd o ran pwrcasu ar draws sector cyhoeddus Cymru. Mae HEFCW’n ei gwneud yn ofynnol i’r Prifysgolion gyflawni amcanion Creu’r Cysylltiadau, gan gynnwys y targedau pwrcasu. Mae Polisi a Chynllun Gweithredu Pwrcasu Aberystwyth, a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Ariannol a Chyffredinol ac sy’n cael ei asesu’n rheolaidd gan HEFCW o ran perfformiad, yn nodi bod angen cynnal adolygiad cynhwysfawr o arferion prynu’r Brifysgol ar sail targedau, gan geisio’u moderneiddio a sicrhau newid cadarnhaol. Felly, mae Mike Smith, y Rheolwr Pwrcasu, wedi datblygu proses yr Adolygiad o’r Prosesau, Gweithdrefnau, Rheoliadau a Systemau Pwrcasu (PPPRS).

Dyma aelodau’r tîm adolygu:    
Swydd
Aelod
 Noddwr a Chyfarwyddwr y Rhaglen
 Mike Smith
 Cynrychiolydd Cyfadran y Celfyddydau
 Kathleen Williams
 Cynrychiolydd Cyfadran y Gwyddorau
 Julian Evans Worthing
 Cynrychiolydd Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol
 Roger Matthews
 Cynrychiolydd y Swyddfa Ystadau
 Joan Williams
 Cynrychiolydd y Swyddfa Gyllid
 Tegid Edwards
 Cynrychiolydd y Gwasanaethau Preswyl
 Alan Stephens
 Cynrychiolydd IGER
 Cameron Pope
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adolygiad neu os hoffech gyfrannu ato, cysylltwch â Mike Smith neu gynrychiolydd eich Cyfadran/Adran…”

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch prynu, cysylltwch â Mr Mike Smith, y Rheolwr Pwrcasu, ar 01970 628611.