Rheoliadau a Gweithdrefnau Ariannol

Statws y Rheoliadau Ariannol

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu Rheoliadau Ariannol y Brifysgol ac mae’n ganllaw ymarferol o’r polisïau eang sy’n gysylltiedig â rheolaeth ariannol. Cymeradwywyd y ddogfen hon yn wreiddiol gan y Cyngor ar 1 Tachwedd 2006. Caiff y Pwyllgor Ariannol a Chyffredinol gynnig newidiadau iddi a chânt eu cymeradwyo’n ôl-weithredol gan y Cyngor. Mae Pwyllgor Archwilio’r Brifysgol yn ei hadolygu bob blwyddyn. Mae’r Rheoliadau Ariannol yn berthnasol i bob rhan o’r Brifysgol a’i holl is-fentrau. Mae’r Rheoliadau Ariannol hyn yn ddarostyngedig i Siarter a Statudau’r Brifysgol ac i unrhyw gyfyngiadau sydd wedi’u cynnwys yn y Memorandwm Ariannol gyda HEFCW ac yng Nghod Ymarfer Archwilio HEFCW.
Mae’n orfodol i bob aelod staff a gyflogir gan y Brifysgol gydymffurfio â’r Rheoliadau Ariannol. Gellir cymryd camau disgyblu yn erbyn unrhyw aelod staff sy’n methu â chydymffurfio â’r Rheoliadau Ariannol, a hynny o dan bolisi disgyblu’r Brifysgol sydd wedi’i amlinellu yn y Llawlyfr Staff. Os caiff y Rheoliadau’u torri, rhoddir gwybod i’r Pwyllgor Archwilio ac yna i’r Cyngor. Penaethiaid yr Adrannau a’r Is-adrannau sy’n gyfrifol am sicrhau bod staff eu Hadran neu’u His-adran yn gwybod am fodolaeth a chynnwys Rheoliadau Ariannol y Brifysgol a bod modd iddynt gael gafael ar y ddogfen (drwy wefan y Swyddfa Gyllid neu ar ffurf copi caled).
Mae Gweithdrefnau Ariannol manwl y Brifysgol yn nodi’n union sut y caiff y Rheoliadau’u rhoi ar waith ac maent i’w gweld yn yr atodiad i’r Rheoliadau Ariannol. Maent hefyd ar gael ar wefan y Swyddfa Gyllid. Os oes Gweithdrefnau Ariannol manylach yn ategu unrhyw eitem yn y Rheoliadau Ariannol, mae’r nodyn (gweler y Gweithdrefnau Ariannol) yn ymddangos ar ôl y teitl yn y Rheoliadau Ariannol.

Rheoliadau Arianol 2006  

Gweithdrefnau Ariannol (Awst 2007)

Mae holl staff y Brifysgol wedi’u rhwymo gan y polisïau a’r gweithdrefnau ariannol a dylent sicrhau bod eu gweithgareddau’n cydymffurfio â nhw. Os bydd aelod staff yn torri’r polisïau a’r gweithdrefnau ariannol, gall arwain at gamau disgyblu ffurfiol. Rhaid rhoi gwybod i’r Cyfarwyddwr Cyllid a’r Pwyllgor Archwilio am unrhyw achosion lle na chedwir yn llym at y polisïau a’r gweithdrefnau. Nid oes rhaid i Bwyllgor gymeradwyo’r Gweithdrefnau Ariannol yn ffurfiol, ond rhaid i’r Cofrestrydd ac Ysgrifennydd a’r Cyfarwyddwr Cyllid eu cymeradwyo.

Gweithdrefnau Ariannol - Financial Procedures (2007)