Mae’r Brifysgol yn credu bod cymryd risg yn rhan hanfodol o fusnes addysg uwch, o ran y gwaith o reoli gweithgareddau addysgol craidd, yn ogystal â’r gweithgareddau ategol.
Nid yw risg yn fater sy’n ymwneud â rheoli bygythiadau i fusnes yn unig; mae’n ymwneud i’r un graddau â methu â manteisio ar gyfleoedd.
Mae rheoli risg a rheolaeth fewnol yn gysylltiedig â chyflawni Cenhadaeth a Nodau’r Brifysgol ar bob lefel, ac ym mhob maes.
Mae’r Brifysgol hefyd yn credu bod rheoli risg yn strategol yn rhan annatod o’i phrosesau a’i diwylliant penderfynu, sy’n cefnogi’r gwaith o gynllunio a gwerthuso’i gweithgareddau’n effeithiol, gan gynnwys hybu arloesi a rheoli newid. Derbynnir bod rheoli risg yn elfen greadigol o reoli’n gyffredinol, ac nid yn elfen ychwanegol.
Derbynnir fel gwireb mai rheoli risg yn effeithiol yw rheoli da, drwy ymgorffori prosesau systematig ac ymgysylltu â’r sefydliad cyfan, o Fwrdd y Llywodraethwyr a’r Weithrediaeth i’r Adrannau Academaidd a Gwasanaethau.
Rôl y Pwyllgor Ariannol a Chyffredinol a’r Pwyllgor Archwilio yw pennu polisïau rheoli mewnol a sicrhau eu bod yn gweithio fel y dylent.
Cyfrifoldeb rheolwyr y Brifysgol yw rhoi’r polisïau hyn ar waith, er mwyn nodi a rheoli risgiau, fel gweithgarwch rheoli.
Er mwyn iddo fod yn effeithiol, rhaid i waith rheoli risg fod yn ddiriaethol, rhaid bod modd ei archwilio a rhaid ei ymgorffori’n amlwg ym mhob proses bwysig, gan roi adroddiadau rheolaidd i gyrff rheoli a llywodraethu priodol am y modd y mae’n gweithredu.
Rhaid ymgorffori gwaith rheoli risg ym mhob rhan o’r Brifysgol. Nid cyfrifoldeb uwch reolwyr yn unig ydyw, ond dylai pob aelod staff ei arfer, yn enwedig y rheini a chanddynt gyfrifoldebau rheoli neu weithredol. Gall y dull o gyflawni hyn amrywio’n unol ag anghenion gwahanol rannau o’r Brifysgol.
Drwy ei pholisi rheoli risg, mae’r Brifysgol yn ceisio sicrhau manteision ariannol, e.e. o ran amser staff, ffioedd cyfreithiol, taliadau yswiriant, lleihau dyledion drwg, ac ati, a hynny drwy gydnabod a rheoli risg yn gynnar.
Mae’r Brifysgol yn ceisio gwella diogelwch staff a myfyrwyr drwy reoli risgiau ffisegol.