Y Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr

Mae gan Swyddfa Gyllid Prifysgol Aberystwyth dîm penodol i gasglu ffioedd a thaliadau myfyrwyr. Mae’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr wedi datblygu opsiynau talu i sicrhau bod y broses o dalu ffioedd mor syml a hyblyg â phosibl ac mae’r swyddogion ar gael i roi cyngor pan fyddwch yn dewis y dull mwyaf addas o dalu sy’n ateb eich gofynion chi. Rydym yn sylweddoli y gall myfyrwyr wynebu anawsterau ariannol o bryd i’w gilydd ac rydym yn argymell yn gryf eu bod yn cysylltu â’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr i drafod eu pryderon cyn gynted â phosibl. O gysylltu’n gynnar, mae’n aml yn sicrhau bod modd dod o hyd i ateb sydd wrth fodd pob parti.

Mae gan y Brifysgol hefyd swyddfa sy’n gyfrifol am weinyddu cymorth ariannol, gyda staff hyfforddedig sy’n rhoi arweiniad a chyngor am bob mater perthnasol. Ein nod yw sicrhau bod trefniadau ariannol yn eu lle ar ddechrau pob sesiwn academaidd i alluogi myfyrwyr i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau academaidd a gwneud y gorau o’u bywyd yn y Brifysgol yn Aberystwyth.

Mae gwybodaeth am ffioedd dysgu a ffioedd neuaddau, yn ogystal â Chyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol, ar gael o’r cyfeiriad ar y chwith.