Talu Unigolion Hunangyflogedig a Chwmnïau Gwasanaeth Personol

Rhaid i bob taliad i unigolion gael ei wneud yn unol â rheolau Cyllid a Thollau EM a ddangosir isod, ac felly gofynnwn i unrhyw daliadau fel hyn gael eu gwneud wedi i’r ffurflen 'Gwirio statws cyflogaeth ar gyfer treth' ar wefan CThEM isod gael ei llenwi a'i hanfon yn electronig, neu lythyr ffurfiol gan yr awdurdodau treth yn datgan bod unrhyw waith a wneir ar ran y Brifysgol yn cael ei wneud ar sail hunangyflogedig. Mae’n rhaid inni’n awr fod â phroses ar waith i gofnodi gwybodaeth o’r fath cyn y gwneir penderfyniad i dalu’r swm gros neu dalu trwy Swyddfa’r Gyflogres.

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch hyn at y tîm Caffael. Sganiwch unrhyw holiaduron a’u hanfon ar e-bost at bylstaff@aber.ac.uk

 

Y Ffurflen a’r Canllawiau

Gwirio statws cyflogaeth ar gyfer treth

CThEM - Canllawiau Statws Cyflogaeth (Saesneg yn unig)