Telerau ac Amodau Taliadau ar-lein

Rheoliadau

Dyma "reolau" y Brifysgol sy'n cyfarwyddo ac yn rheoleiddio'r Brifysgol, ei hawdurdodau a'i haelodau. Mae'r Rheoliadau'n cynnwys materion megis derbyn myfyrwyr a'u cofrestriad, ffioedd a dyddiadau talu, rhwymedigaethau myfyrwyr, gweithdrefnau disgyblu'r Brifysgol ac ati.  Mae'r myfyriwr ynghlwm wrth Reoliadau'r Brifysgol unwaith y bydd wedi cofrestru.  I gael manylion llawn, ewch i Ran B - Rheolau & Rheoliadau.

I gael manylion am ffioedd, taliadau, datganiadau, dyddiadau talu, trefniadau rhandaliadau, gweithdrefnau adennill dyledion ac ati, ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/finance/.

Nid yw talu unrhyw symiau y bwriedir iddynt fod ar gyfer Blaendaliadau/Ffioedd Dysgu a/neu Flaendaliadau/Taliadau ar gyfer llety gan neu ar ran y Myfyriwr ynddo'i hun yn dynodi bodolaeth contract rhwng y Brifysgol a'r Myfyriwr.  Dim ond pan fydd y myfyriwr yn cofrestru ar y cwrs y daw contract ar gyfer darpariaeth cwrs i fodolaeth.

 

Gordaliadau ac Ad-daliadau

Bydd taliadau a wneir ar-lein ar gyfer Blaendaliadau/Ffioedd Dysgu, Blaendaliadau/Taliadau am lety yn ystod y tymor ac anfonebau cyffredinol eraill yn cael eu cynnwys ar gyfrif Prifysgol y Myfyriwr yn unol â'r manylion a gyflwynir yn electronig.

Os gwneir gordaliad, yn erbyn cyfanswm y Ffi Dysgu flynyddol neu gyfanswm y Ffi Llety, yna defnyddir y credyd sy’n weddill i wrthbwyso unrhyw ddyled neu anfoneb ar gyfrif y myfyriwr (p'un ai yw'n codi o hyfforddiant, llety, neu unrhyw dâl dilys arall) yn nhrefn y dyddiad dyledus. Os nad oes unrhyw ddyled neu anfoneb arall, bydd y balans credyd yn cael ei ad-dalu yn unol â gweithdrefnau arferol y Brifysgol.

 

Taliadau Banc ac ati

Bydd unrhyw gostau neu daliadau eraill sy’n codi wrth wneud y taliad neu wrth brosesu ad-daliad yn cael eu talu gan y myfyriwr neu'r trydydd parti sy'n gwneud y taliad, ac ni ellir eu tynnu o'r symiau sy'n ddyledus i'r Brifysgol.

 

Taliadau gan Drydydd Parti

Nid yw talu Blaendaliadau/Ffioedd Dysgu a/neu Flaendaliadau/Taliadau am lety gan berson neu sefydliad ac eithrio'r myfyriwr yn gyfystyr â chontract i gael eu derbyn i'r Brifysgol, nac ar gyfer darparu Cwrs, nac ar gyfer darparu llety rhwng person neu sefydliad o'r fath a'r Brifysgol.

 

Y Gyfraith Lywodraethol

Mae'r Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr.  Bydd unrhyw anghydfod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Lloegr yn unig.