Bywgraddiadau Aelodau'r Cyngor
Llywydd
Syr Emyr Jones Parry GCMG PhD FInstP
Cymro Cymraeg a aned yng Nghaerfyrddin yw Syr Emyr Jones Parry. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd a chafodd PhD mewn Ffiseg o Gaergrawnt. Bu’n Ddiplomydd rhwng 1973 a 2007, a’i swyddi diwethaf oedd Llysgennad i’r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, Cynrychiolydd Parhaol i NATO, a Chyfarwyddwr Gwleidyddol y Swyddfa Dramor. Rhwng 2007 a 2009 bu’n gadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol. Mae ganddo brofiad o’r Llywodraeth ar bob lefel, yn ogystal â’r Undeb Ewropeaidd, Datblygiadau Cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig, Polisi Gwyddoniaeth, a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Is-lywyddion
Mrs Elizabeth France CBE BSc Econ Hon DSc Hon DLitt
Graddiodd Elizabeth France o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth lle bu’n astudio gwleidyddiaeth (1968-1971), ac mae hi bellach yn Gadeirydd ar y Swyddfa Cwynion Cyfreithiol ac yn gyfarwyddwr anweithredol ar yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol. Hyd at 1 Gorffennaf 2009 bu’n Brif Ombwdsman ac yn Brif Weithredwr i’r Gwasanaeth Ombwdsman Cyf., sy’n darparu’r Gwasanaeth Ombwdsman Telathrebu (Otelo), y Gwasanaeth Ombwdsman Ynni a’r Gwasanaeth Ombwdsman Syrfewyr. Cyn hynny bu Elizabeth yn Was Sifil. Ymddeolodd o’r Gwasanaeth Sifil i gymryd swydd Cofrestrydd Diogelu Data ym Medi 1994, gan ddod yn Gomisiynydd Gwybodaeth yn Ionawr 2001. Mae’n un o Is-lywyddion Prifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Gynulliad Cyffredinol Prifysgol Manceinion. Mae Elizabeth wedi derbyn doethuriaethau anrhydeddus oddi wrth Brifysgolion De Montfort, Loughborough a Bradford ac mae’n Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth. Ym Mehefin 2002 rhoddwyd CBE iddi am ei gwasanaethau i warchod data.
Miss Gwerfyl Pierce Jones MA
Brodor o Gaergybi, Ynys Môn. Addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Caergybi a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
Dechreuodd ei gyrfa fel darlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. (Fe'i hurddwyd yn Gymrawd Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan yn 2008.)
Oddi ar hynny bu'n dal nifer o swyddi ym maes y celfyddydau - gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, yr Academi Gymreig a Chyngor Lyfrau Cymru. Gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr a phrif weithredwr y Cyngor Llyfrau o 1987 hyd ei hymddeoliad yn 2009. Y mae wedi gwasanaethu ar nifer o fyrddau a phwyllgorau cenedlaethol, gan gynnwys y Cyngor Prydeinig (Pwyllgor Cymru), Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Y mae'n Gadeirydd Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen ac yn gadeirydd ei Bwyllgor Ceisiadau. Y mae hefyd yn Gadeirydd Panel Llenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dr Glyn Rowlands BSc PhD
Yn dilyn ei radd a’i radd uwch mewn Cemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth Dr Glyn Rowlands i Gymrodoriaeth ym Mhrifysgol Talaith Iowa am ddwy flynedd, lle arbenigodd mewn cemeg prinfwynau. Parhaodd ei yrfa wyddonol yn Awdurdodau Ynni Atomig y Deyrnas Unedig yn ogystal â’r Unol Daleithiau tan ganol yr wythdegau.
Ar ôl ennill y cymwysterau perthnasol, aeth ati i farchnata a rheoli, gan ddod yn Brif Weithredwr Canolfan Ymchwil Huntingdon (Hunitingdon Life Sciences bellach). Oddi yno symudodd i Medelec, un o is-gwmnïau Vickers, lle enillodd gryn dipyn o brofiad rhyngwladol fel Prif Weithredwr â chyfrifoldeb arbennig am wneud a rhedeg Caffaeliadau Rhyngwladol gydag is-gwmnïau yn Unol Daleithiau America, Japan, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Sbaen.
Pan oedd tua hanner cant oed, newidiodd gyfeiriad ei yrfa unwaith eto drwy fynd yn ymgynghorwr hunangyflogedig i’r Diwydiant Cyfalaf Mentro gan weithio’n bennaf ar gyfer 3i a Thomson Clive. Tueddai i arbenigo mewn cwmnïau uwch-dechnoleg llai gan weithredu fel Cadeirydd/ cyfranddaliwr. Arweiniodd hyn at ddatblygu cwmni o’r enw Homecraft a dyfodd yn sylweddol, ac a werthwyd yn y pen draw i Smith and Nephew.
Yn ddiweddar, gweithiodd fel cynghorydd i gwmni o San Diego a arbenigai mewn thermometreg, gan drefnu i werthu’r busnes yn llwyddiannus.
Fel tad i ddau, a thad-cu i saith, o blant mae wedi mwynhau treulio amser gyda’u deulu a hamddena, yn ogystal â dilyn ei yrfa. Roedd yn arw am chwaraeon yn ei ieuenctid, ac mae’n parhau i fwynhau chwarae golff a bowls. Ddeng mlynedd yn ôl, fe’i gwnaed yn Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth, a oedd yn dipyn o anrhydedd. Ers ei ymddeoliad, mae wedi gwasanaethu’r Brifysgol drwy fod yn aelod o’r Cyngor a nifer o bwyllgorau.
Trysorydd
Dr Timothy Brain QPM BA PhD FRSA
Bu Dr Timothy Brain OBE QPM BA PhD FRSA CCMI yn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw o 2001 hyd Ionawr 2010, gan ymddeol fel y prif gwnstabl hiraf ei wasanaeth yn y wlad. Cyn ymuno â’r Heddlu bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth rhwng 1972 a 1978, lle astudiodd hanes gan gael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1975 a’i PhD yn 1983. Ymunodd â Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn 1978 dan y cynllun mynediad i fyfyrwyr, gan ddringo o fod yn gwnstabl i fod yn brif arolygydd cyn ymuno â Heddlu Hampshire pan gafodd ei ddyrchafu’n uwch-arolygydd. Daeth yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol yn Heddlu’r West Midlands yn 1994, lle bu’n gyfrifol am Faterion Cymunedol ac, yn ddiweddarach, Gweithrediadau. Roedd ei gyfrifoldebau penodol yn cynnwys plismona Euro ’96, gweithrediadau gwrth derfysgaeth, ac ad-drefnu’r heddlu yn helaeth yn 1997. Yn 1998 daeth yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw.
Bu’n aelod o Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) o 1994 hyd ei ymddeoliad, gan wasanaethu fel arweinydd cenedlaethol y Gymdeithas ar faterion cyllid, puteindra a materion cysylltiedig. Chwaraeodd ran blaenllaw yn fframio polisi’r Llywodraeth i ddelio â phuteindra plant yn 1998 a chreu strategaeth puteindra’r ACPO yn 2004. Arweiniodd y gweithrediadau Pentameter cenedlaethol yn erbyn masnachu mewn pobl er mwyn camfanteisio arnynt yn rhywiol yn 2006 a 2008. Cyflawnodd adolygiad mewnol sylweddol ar derfysgaeth a materion cysylltiedig ar ran y gymdeithas yn Rhagfyr 2009. Roedd hefyd yn Gadeirydd ar Gymdeithas Staff Prif Swyddogion yr Heddlu (CPOSA). Arweiniodd ymateb Swydd Gaerloyw i’r llifogydd sylweddol a’r argyfwng dŵr yn 2007.
Fel dadansoddwr blaenllaw ar blismona, mae’n siarad ac yn darlledu yn rheolaidd ar ystod eang o faterion yn ymwneud â’r heddlu, gan gynnwys dyfodol yr heddlu, arweinyddiaeth strategol, cyllid yr heddlu, rheoli perfformiad, hanes yr heddlu a phlismona gwrth-buteindra. Mae’n Athro Ymweld ym Mhrifysgol South Bank Llundain a Phrifysgol Swydd Gaerloyw. Mae hefyd yn Uwch Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd ac yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Aberystwyth. Yn 2008 dyfarnwyd doethuriaeth anrhydeddus yn y gyfraith iddo ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw. Mae’n ysgrifennu ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â’r heddlu, yn enwedig cyllid, ac mae’n cyfrannu’n rheolaidd i ddarllediadau newyddion a materion cyfoes. Cyhoeddwyd ei lyfr A History of Policing in England and Wales from 1974: a turbulent journey gan Wasg Prifysgol Rhydychen ym mis Mawrth 2010.
Mae ei ddiddordebau yn cynnwys hanes, cerddoriaeth, rygbi undeb a chriced. Mae’n aelod o fwrdd gweithredol Clwb Criced Swydd Gaerloyw, yn gadeirydd Gŵyl Three Choirs Swydd Gaerloyw, ac yn ymddiriedolwr o’r Nature in Art Trust ac Ysgol Dean Close, Cheltenham.
Is-ganghellor
Yr Athro April McMahon MA PhD FBA FRSE
Cychwynnodd yr Athro April McMahon yn Is-Ganghellor ar 1 Awst 2011. Cyn hynny roedd yn Is-Brifathro Polisi Cynllunio, Adnoddau ac Ymchwil ym Mhrifysgol Caeredin. Enillodd radd MA ym maes Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ac yna Doethuriaeth ym mae Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Caeredin. Bu’n dysgu yn yr Adran Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt am 12 mlynedd, lle’r oedd hefyd yn Gymrawd yng Ngholeg Selwyn, a bu’n Athro Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Sheffield o 2000 tan 2004. Yn 2005 penodwyd yn Athro Forbes iaith Saesneg ac yn bennaeth yr Adran Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caeredin ac wedyn yn Bennaeth Coleg y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol cyn dod yn Is-Brifathro yn 2009. Ieithyddiaeth yw ei disgyblaeth academaidd ac mae ei hymchwil wedi canolbwyntio ar gymariaethau rhwng gwahanol dafodiaethau Saesneg, gyda diddordeb arbennig mewn Sgoteg, sut mae ieithoedd yn newid, astudiaethau amlddisgyblaethol o’r berthynas deuluol rhwng ieithoedd, a goblygiadau ieithoedd mwyafrifol tresmasol. Y mae hi’n awdur ac yn gydawdur nifer o gyfrolau, ac yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Caeredin ac o’r Academi Brydeinig. Mae’r Athro McMahon yn briod a thri o blant.
Dirprwy Is-gangellorion
Ms Rebecca Davies BLib
Graddiodd Rebecca o Brifysgol Aberystwyth lle astudiodd Llyfrgellyddiaeth ac Addysg, gan hefyd cwblhau Tystysgrif Ol-raddedig mewn Addysg. Bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach, fe ddaeth yn ol i Aberystwyth fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth, gan gael ei apwyntio yn Ddirprwy Is-Ganghellor yn 2011. Cyn ddod nol i Aberystwyth, roedd gyrfa Rebecca wedi cynnwys swyddi mewn meysydd gwybodaeth llywodraeth, gwasanaethau cwsmer, a rheolaeth ymchwil a gwybodaeth. Mae’n frwd dros defnyddio technoleg i wneud bywyd yn haws a darparu gwasanaethau o’r ansawdd orau.
Yr Athro John Grattan
Yr Athro Martin Jones BA PhD FRGS FRSA AcSS MeRSA
Ymunodd Martin Jones â Phrifysgol Aberystwyth ym 1998 ac fe gafodd Gadair Personol yn 2004. Yn 2006 fe enillodd Wobr Philip Leverhulme, mewn gydnabyddiaeth am ei gyfraniadau sylweddol i ddaearyddiaeth ar lefel ryngwladol. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngwyneb rhwng daearyddiaeth economaidd a gwleidyddol ac mae wedi cyfrannu at drafodaethau ar datblygiad/llywodraethu economaidd; ail-strwythuro ‘lle’ rhwng datganoli a’r wladwriaeth; a rhanbarthiaeth. Mae’n awdur a golygydd pump o lyfrau a dros 50 o erthyglau mewn cyfnodolion rhyngwladol. Mae ei ymchwil presennol yn rhan o Sefydliad Cymru ar Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Dulliau a Data, wedi’i ariannu ar y cŷd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru (HEFCW) a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) er mwyn cyfuno ac adeiladu ar yr arbenigedd sydd eisioes yn bodoli mewn dulliau a methodolegau ymchwil meintiol ac ansoddol ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe. Sefydlodd Martin y cyfnodolyn Territorial Politics and Policy, mewn gysylltiad gyda’r Cymdeithas Astudiaethau Rhanbarthol.
Roedd Martin yn Gyfarwyddwr Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear rhwng 2004-2007, Deon Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol rhwng 2008-2009, ac yn Ddirprwy Is-ganghellor ers 2009. Mae ganddo gyfrifoldeb dros dysgu ac addysgu, ansawdd a safonnau, datblygiad staff, cymorth i fyfyrwyr, a phrofiad y myfyriwr. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn amgylcheddau dysgu sydd wedi’u gwella gan dechnoleg, profiadau myfyrwyr integreiddiedig, brandio, a rheoli perfformiad. Mae’n cynrychioli Prifysgol Aberystwyth ar bwyllgorau dysgu ac addysgu HEW, grwp gwaith DCELLS ar Sicrhau Ansawdd Addysg Gydol Oes, yn ogystal â mentrau HEFCW yn ymwneud â rhanbarthiaeth.
Yr Athro Aled Jones BA (Efrog) MA PhD (Warwick) FRHistS FRAS
Penodwyd Aled Gruffydd Jones i Gadair Syr John Williams yn Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1995. Mae’n arbenigo ar hanes y Gymru fodern, yn arbennig ei pherthynas â’r Ymerodraeth, a hanes cyfryngau Cymru a Phrydain o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd heddiw.
Mae ei gyhoeddiadau’n cynnwys Press, Politics and Society: A History of Journalism in Wales (1993), a Powers of the Press: Newspapers, power and the public in nineteenth-century England (1996). Mae’n gyd-olygydd y Welsh History Review ac mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Llenyddol y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol (2000-2004). Mae ei ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar genhadu Protestannaidd Cymreig yn India 1840-1966.
Bu’n gweithio fel Pennaeth yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn Aberystwyth (1994-2002), ac er 2005 ef yw Dirprwy Is-ganghellor y Brifysgol a chanddo gyfrifoldeb dros Ymchwil, Recriwtio Myfyrwyr a’r Iaith Gymraeg. Bu’n aelod o’r Panel Hanes yn Asesiad Ymchwil 2008. Ar hyn o bryd mae’n cadeirio Grŵp Cynghori ar Ymchwil Dirprwy Is-gangellorion Addysg Uwch Cymru, a bu’n aelod o Banel Arbenigol y Dirprwy Weinidog ar Ymchwil a Datblygu (2010). Ef yw Is-gadeirydd Grŵp y Sector Addysg Uwch ar Addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n aelod o Fwrdd Gweithredu Cenedlaethol y ‘Coleg Ffederal’ yn ogystal â’i grŵp llywio. Mae hefyd yn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth ar fwrdd Consortiwm Rhyngwladol Cymru ac mae’n aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ei amser ei hun.
Aelodau penodedig
Mr Roger Banner BSc FCA
Ganwyd Roger Banner yng Nghaerllion ac fe’i magwyd yng Nghasnewydd. Rhwng 1960 a 1963 bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Astudiodd Ddaearyddiaeth a Daeareg, ac wedi gyrfa academaidd heb fod yn or-llewyrchus, roedd yn hapus ac yn ddiolchgar pan gafodd ei radd.
Ar ôl 5 mlynedd yn dilyn ei ddiddordeb mawr mewn ceir a rasio moduron, penderfynodd y dylai gymryd agwedd fwy difrifol tuag at fywyd ac, yn 1970, ymunodd â’r Cooper Brothers yng Nghaerdydd i hyfforddi fel cyfrifydd. Ar ôl cymhwyso, cafodd ei berswadio i fynd i weithio dros dro yn swyddfa’r cwmni yn Llundain. Serch hynny, aeth y blynyddoedd heibio, a threuliodd weddill ei yrfa yn swyddfa Coopers yn Llundain (PricewaterhouseCoopers yn ddiweddarach), heblaw am y ddwy flynedd pan gafodd leoliad dros dro yn Nassau yn y Bahamas.
Gweithio ym maes ymchwiliadau ariannol a wnaeth yn PwC yn bennaf, gan gynnwys cyfuno a phrynu cwmnïau, ad-drefnu corfforaethol a rhoi cwmnïau ar y farchnad stoc. Yn ystod y 1980au a’r 1990au chwaraeodd ran fawr yn rhaglen breifateiddio’r Llywodraeth, ac ef oedd yn gyfrifol, ymysg pethau eraill, am waith cyfrifyddol Dur Prydain a Thrydan De Cymru yng Nghymru.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth bu’n aelod o’r Grŵp Cyllid a Chynllunio Cyffredinol er 2003 ac ef yw cyfarwyddwr See3D, un o gwmnïau deillio’r brifysgol. Ef hefyd yw trysorydd Canolfan Gymunedol Bridges, elusen annibynnol sylweddol yn Nhrefynwy.
Yn ŵr priod â dau fab, mae ei ddiddordebau hamdden yn cynnwys ceir clasurol, ymlafnio i wella ei ‘handicap’ golff a gwneud ei orau i ddygymod â hoffter ei wraig at deithio i wledydd egsotig.
Mrs Janet Davies
Yr Athro Roger Earis
Ganwyd yr Athro Earis yn Abertyleri yn 1943 ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Preston, Ysgol Lincoln a Choleg Merton, Rhydychen, lle astudiodd Hanes gan gymhwyso yn y Gyfraith. Dysgodd Hanes yn Luton a Sibu Sarawak, a bu’n glerc erthygledig i Glerc Cyngor Sir Gorllewin Sussex ac yna’n Gyfreithiwr yn y Cyngor Sir.
Bu’n darlithio ar y Gyfraith yng Ngholeg y Gyfraith. Roedd yn aelod o’r Bwrdd Rheoli, yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Academaidd ac yn Athro yng Ngholeg y Gyfraith. Sefydlodd y cysylltiad â’r Brifysgol Agored ac ef oedd yn gofalu am gynllunio a gweithredu Gradd y Brifysgol Agored yn y Gyfraith.
Mae wedi archwilio, achredu a graddio cyrsiau Ymarfer Cyfreithiol y prifysgolion ledled Cymru a Lloegr ar ran Cymdeithas y Gyfraith. Mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Cyrsiau Ymarfer y Gyfraith ac roedd yn Gadeirydd o’r Cyd-fwrdd Hyfforddi Academaidd ar gyfer Cyfreithwyr a’r Bar.
Bu gynt yn aelod o Gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Gadeirydd ar eu Pwyllgor Archwilio. Cafodd ei ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Astudiaethau Uwch y Gyfraith ac yn
Gymrawd o’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig. Mae’n un o Ymddiriedolwyr Cymdeithas Mynyddoedd Cambria ac mae’n Ysgrifennydd i Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur.
Mae’n ŵr priod, yn dad i ddau o blant, ac yn dad-cu.
Mr Keith Evans
Magwyd Mr Keith Evans ym mhentref Prengwyn ger Llandysul Ceredigion ac mae’n rhugl ddwy-ieithog. Mae’n 59 blwydd oed ac yn briod I Eirlys ers 1971. Derbyniodd ei addysg ffurfuol yn Ysgol Gynradd Tregroes, ac yna yn Ysgol Ramadeg Llandysul.
Yn dilyn hyn cychwynodd ei gwaith gyda Cwmmni arlwyo Fedwen Caterers a oedd hefyd yn berchen ar Westy Blaendyffryn ger Llandysul. Yn 1971 cafodd y cyfle i ddod yn bartner yn y fusnes Fedwen Tentage lle mae ef a’i cyfaill yn dal i redeg y fusnes ond yn canolbwyntio ar bebyll a cynyrchu gorchuddion ac ati yn unig ers y cychwyn.
Yn 1985 cymerodd ddiddordeb yn materion cymunedol a cychwynodd ar ei gyrfa Wleidyddol gydag W fach. Yn 1987 cafodd ei ethol i Gyngor Dosbarth Ceredigion ac yna yn y cyfnod o ad-drefnu llywodraeth leol, ei ethol i Gyngor Sir Ceredigion ym 1996.
Mae wedi bod ers cychwyn y Cyngor yn Ddirprwy Arweinydd, ac bellach ers pedair blynedd yn Arweinydd y Cyngor.
Dros y cyfnod o bump blynedd ar hugain o’i ymwneud gyda bywyd cyhoeddus, mae wedi cael y profiad o weithio ar y lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Engreifftiau o hyn yw`r Cyngor Cymuned yn Llandysul, Llywodraethu ar ysgolion lleol, Capel Carmel Prengwyn, Cyngor Dosbarth a Sir, nifer a gormod i`w rhestri o bwyllgorau lleol.
Ar y lefel rhanbarthol cafodd y profiad o weithredu fel aelod o Fwrdd Datblygu Cymru Wledig am saith blynedd. Uchel Syrif Dyfed 2003/4. Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ar holl sy`n deillio o hynnu.
Ar y lefel Genedlaethol, mae wedi gwasanaethu ar Gyngor Chwareon Cymru am dros 12 blynedd. Mae’n dal i wasaneuthu ar eu pwyllgor awdit. Mae’n aelod o Fwrdd Cwpan Ryder Cymru ac yn gyn aelod o Fwrdd rheoli risg llifogydd Cymru. Mae wedi gwasanethu yn ogystal ar gorff cendelaethol oedd yn penderfynnu ar fuddsoddiadau busnesau strategol parthed arian Ewrop Amcan 1 ( Business Assets Strategy Board)
Mae ynghlwm gyda gwaith Cymdeithas Llywodraeth Leol ac yn brif leisydd ar amryw faterion.
Yr Athro Wynne Jones BSc (Hons), PhD, Hon DSc, FRAgS, FIAgrE, FIAgrM, FIBIOL, FCGI
Ganwyd Yr Athro Wynne Jones ym Mae Colwyn a gafodd ei addysg yng Ngholeg Brifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a Phrifysgol Reading. Mae wedi mwynhau gyrfa hir a ddisglair ym maes amaethyddiaeth, lle, yn fwyaf diweddar, buodd yn Brifathro a Phennaeth Coleg Prifysgol Harper Adams. O 1988 hyd at 1996, roedd yn Ddirprwy Brifathro a Chyfarwyddwr Materion Academaidd yno. O 1978 hyd at 1988, roedd yn bennaeth ar yr Adran Cynhyrchiad Anifeiliad, Coleg Amaeth Cymru, Aberystwyth.
Mae wedi derbyn sawl gwobr, yn cynnwys Cymrodoriaeth Sefydliad City and Guilds; Cymrodoriaeth Sefydliad Rheoli Amaeth; Cymrodoriaeth y Sefydliad Bioleg; a Cyhymrodoriaeth Sefydliad Materion Cymreig. Mae hefyd wedi derbyn OBE am ei wasanaeth i addysg uwch lleol ac amaethyddol.
Mae bellach yn aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth; yn Gadeirydd Panel Gwobrau, Cyngor Gwobrau y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol; Cadeirydd y Fforwm Gwyddoniaeth Llaeth; Cadeirydd Ymddiriedolaeth Treharne; Llywydd Ffarmwr Dyfodol Cymru; ac yn Gadeirydd ar Gwrs Datblygu Arweinyddiaeth, Sefydliad Rheoli Amaeth.
Yr Athro Gareth Roberts
Roedd yr Athro Emeritws Gareth Roberts yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ac yn Bennaeth Ysgol Addysg y Brifysgol. Mae ganddo arbenigedd ymchwil a chwricwlaidd mewn dysgu ac addysgu mathemateg, gyda diddordeb arbennig yn y broses o ddatblygu cysyniadau mathemategol mewn cyd-destunau dwyieithog. Mae’n adolygwr gyda’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ym Mhrydain a thramor. Bu’n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
Syr John Skehel FRS
Mae Syr John Skehel wedi mwynhau gyrfa nodedig ym maes firoleg. Mae ganddo amryw ddiddordebau, yn cynnwys:
• Gwyddonydd Ymchwil Gwadd yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Feddygol, Mill Hill, Llundain.
• Un o Ymddiriedolwyr yr Ymddiriedolaeth Iechyd Anifeiliaid, Newmarket.
• Athro Anrhydeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain; Prifysgol Lerpwl John Moores a Phrifysgol Glasgow.
• Aelod o Cancer Research UK
• Ymgynghorydd i Gyfarwyddwr y Sefydliad Ludwig Ymchwil i Ganser, Efrog Newydd.
• Aelod o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol y sefydliadau canlynol:
o Institut Pasteur, Paris;
o Prifysgol Hong Kong;
o National Institute of Health Centre for HIV/AIDS Vaccine Immunology, Duke University, Gogledd Carolina, UDA;
o National Institute of Health Influenza Centre, Emory University, Atlanta, UDA;
o Novartis Vaccines, Boston, UDA;
o InB Pharmaceuticals, Delaware, UDA;
o Ymddiriedolaeth Iechyd Anifeiliaid, Newmarket (Cadeirydd).
Aelodau Etholedig
Etholwyd gan y Senedd
Yr Athro Mike Foley BA MA PhD
Michael Foley yw Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. I ddechrau bu’n arbenigo ym meysydd gwleidyddiaeth a hanes UDA a damcaniaeth ac ymarfer cyfansoddiadol. Fodd bynnag mae ei ddiddordebau wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf i gynnwys cyfres o gysylltiadau â hanes a defnydd cyfredol syniadau mewn gwleidyddiaeth; safle a rôl arweinyddiaeth wrth gynnal a deall gwleidyddiaeth; yn ogystal ag amrywiaeth o themâu yn ymwneud â chysylltiadau rhyngwladol a threfniant gwleidyddiaeth fyd-eang.
Mae’r Athro Foley wedi bod yn ymwneud ag amrywiaeth o gyrff proffesiynol, gweithrediadau darlledu a mentrau cyhoeddi. Mae’n asesu cynigion a theipysgrifau llyfrau ar gyfer nifer o gyhoeddwyr (e.e. Oxford University Press, Blackwell, Simon and Schuster, Chatham House, Macmillan-Palgrave, Sage, Manchester University Press, Routledge, ac Edinburgh University Press, Pearson/Longman) ac wedi gweithredu fel adolygydd ar gyfer sawl cyhoeddiad megis THE, International Affairs, Political Studies, Millennium: Journal of International Studies, Political Quarterly a’r Cambridge Review of International Affairs. Mae wedi gwasanaethu ar fwrdd golygyddol y Journal of American Studies ac ar hyn o bryd mae’n cyd-olygydd y cyfnodolyn dylanwadol International Relations. Mae’n awdur un ar ddeg o lyfrau - gan gynnwys:
- The New Senate: Liberal Influence on a Conservative Institution 1959-1972
- The Silence of Constitutions: Gaps, ‘Abeyances’ and Political Temperament in the Maintenance of Government
- A Government of Laws Men and Machines: Modern American Politics and the Appeal of Newtonian Mechanics
- The Politics of the British Constitution
- The British Presidency: Tony Blair and the Politics of Public Leadership
Ei gyhoeddiad maint llyfr diweddaraf yw American Credo: The Place of Ideas in US Politics (Oxford University Press) sy’n archwiliad helaeth i’r defnydd o syniadau yng nghonfensiynau ymglymiad gwleidyddol yng ngwleidyddiaeth UDA. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar waith mawr â’r teitl Political Leadership: Contexts, Processes and Paradoxes yn ogystal â chynnal ymchwil i (i) dynameg poblyddiaeth gyfoes; (ii) swyddogaeth arweinyddiaeth wleidyddol yn y dimensiwn rhyngwladol; a (iii) rôl technolegau cyfryngau newydd fel cyfrwng gweithgaredd gwleidyddol.
Dr Siân Nicholas BA DPhil FRHistS
Mae Sian Nicholas yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe’i magwyd yn Llundain ac fe’i haddysgwyd yn New Hall, Caergrawnt, Prifysgol Gogledd Carolina yn Chapel Hill, a Choleg Nuffield, Rhydychen, cyn ymuno â’r adran yn 1992. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar hanes y cyfryngau torfol ym Mhrydain yn yr ugeinfed ganrif, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn darlledu a’r cyfryngau mewn cyfnodau o ryfel. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys The Echo of War: Home Front Propaganda and the Wartime BBC (1996), a (fel cyd-olygydd) Reconstructing the Past: History in the Mass Media 1890-2005 (2009), ac mae hefyd wedi cyhoeddi ar bynciau sy’n amrywio o hunaniaeth genedlaethol Prydain yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif i fywgraffiad o’r maswr, Jonathan Davies.
Bu’n gweithio fel golygydd y cylchgrawn Twentieth Century British History rhwng 2005 a 2009, ac mae ar hyn o bryd yn eistedd ar ei Fwrdd Ymgynghorol. Mae hefyd ar Fwrdd Golygyddol y cylchgrawn Media History.
Mae’n Gyfarwyddwr ar Ganolfan Hanes y Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth, y sefydlodd ar y cyd â’r Athro Tom O’Malley yn 2005, ac yn Gydymaith Anrhydeddus ar Ganolfan Hanes y Cyfryngau, Prifysgol Macquarie, NSW. Mae’n aelod o’r Senedd ers 2003.
Yr Athro Tim Woods BA MA PhD
Yn fab i ffisegwr deiamwnt a chynllunydd-arlunydd, ymfudod Yr Athro Tim Woods i’r Deyrnas Unedig o Dde Affrica yn y 70au hwyr gyda’i rhieni a dau brawd. Ar ôl cwblhau ei BA, MA a Doethuriaeth mewn Llenyddiaeth Saesneg ym mhrifysgolion Briste a Southampton, ac yn dilyn cyfnod byr fel darlithydd dros dro ym Mhrifysgol Winchester, gafodd ei apwyntio’n ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1990. Cafodd ei wobrwyo gyda Chadair Personol yn 2003 a gafodd ei apwyntio yn Bennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol rhwng 2002-2007.
Mae bellach yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau ers 2007, ac ymysg ei gyfrifoldebau eang mae Sicrhau Ansawdd mewn Dysgu ac Addysgu a Monitro a Datblygu Ymchwil. Ers cychwyn ym Mhrifysgol Aberystwyth mae wedi eistedd ar nifer o bwyllgorau’r Brifysgol ac wedi cyflawni nifer o arolygon archwiliadol sefydliadol allanol. Mae hefyd wedi bod yn Aseswr Cyfoed ar ran yr AHRC ac roedd yn aelod o banel RAE 2008.
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cwympo i ddau maes – barddoniaeth Americanaidd a Phrydeinig o’r Ugeinfed Ganrif a llenyddaieth Affricanaidd, yn enwedig llenyddiaeth o Dde Affrig – pwnc lle mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a llyfrau. Mae’n byw yn Aberystwyth gyda’i wraig a dwy ferch, ac ymysg ei hoff weithgareddau yn yr awyr agored mae criced (mae’n gyn-Gadeirydd Cynhadledd Criced Gorllewin Cymru), cerdded a hwylio.
Etholwyd gan staff nad ydynt yn academaidd
Mrs Rachel Hubbard
Cafodd Rachel Hubbard ei geni a’i magu yn Aberystwyth cyn symud i astudio yng Nghaerdydd. Mae Rachel wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd yn gweithio fel Hyfforddwr Ffitrwydd yn y gymuned leol ac fel Hyfforddwr yn Llundain ac yng Nghymru, gan hyfforddi eraill i fod yn Weithwyr Ffitrwydd Proffesiynol. Dechreuodd weithio yn y Brifysgol ym 1995, yn yr adran Personél i ddechrau, ac er 1999 mae wedi bod yn rhan o’r tîm rheoli yn y Ganolfan Chwaraeon.
Yn ystod ei chyfnod yn y Ganolfan Chwaraeon, mae Rachel wedi ennill gradd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, ac wedi defnyddio ei gwybodaeth i ddatblygu cwrs Gofal Cefn i Weithwyr Ffitrwydd Proffesiynol ac mae’n aelod o Grŵp Llywio Gofal Cefn Llywodraeth Cymru. Ar wahân i ymarfer corff cyffredinol, mae Rachel yn Ysgrifennydd Iau Clwb Rygbi Aberystwyth a hi oedd Rheolwr Tîm WWRU ym 1998/99
Aelodau cyfetholedig
Mr Andrew Green MA ALA
Andrew Green yw Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru er 1998. Hyd at 1998 treuliodd ei yrfa gyfan mewn Prifysgolion Prydeinig a’u llyfrgelloedd: Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth (1973-74), Coleg Prifysgol Caerdydd (1975-89), Prifysgol Sheffield (1989-92), Prifysgol Cymru Abertawe (1992-98) – yr olaf fel Cyfarwyddwr y Llyfrgell a’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Mae Andrew yn swyddog neu’n aelod o nifer o gyrff ym maes llyfrgelloedd a gwybodaeth, yn cynnwys Cymdeithas y Llyfrgelloedd Colegau, Cenedlaethol a Phrifysgolion (SCONUL) (Cadeirydd 2002-2004), y Panel Cynghori ar Adneuon Cyfreithiol, Pwyllgor Llyfrgelloedd Adneuon Cyfreithiol (Cadeirydd, Grŵp Gweithredu), Grŵp Noddwyr y Rhwydwaith Gwybodaeth Ymchwil, Cyngor Ymgynghorol CyMAL, Gweithgor Digido JISC, Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol (CILIP) Cymru (Llywydd), a Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) (Cadeirydd).
Mae’n aelod o Lysoedd nifer o Brifysgolion Cymru, ac mae’n dal Cymrodoriaethau er Anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru Abertawe, Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Cadeiriodd Grŵp Llywio Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu strategaeth ledled Cymru ar addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae ei ddiddordebau proffesiynol yn cynnwys cymhwyso technolegau gwybodaeth a chyfathrebu ar gyfer gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth, datblygiadau ar-lein mewn cyrff diwylliannol, hyfforddi a datblygu staff, a chynllunio strategol.
Lle Gwag
Corff y Myfyrwyr
Mr Ben Meakin
Mae Llywydd Urdd Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Ben, wedi graddio mewn daearyddiaeth ac roedd yn rheolwr gorsaf Bay Radio am ddwy flynedd. Mae'n awyddus i lywio'r Urdd i gyfeiriad newydd, i ffwrdd o ganolbwyntio ar werthiannau yn y bar, tuag at greu lle llawn bwrlwm lle y gallai pobl gyfoethogi eu profiad fel myfyrwyr.
Ms Tammy Hawkins
Mae Tammy yn Gymraes o deulu di-Gymraeg (eu hiaith) ac yn dod yn wreiddiol o Aberpennar yng Nghymoedd De Cymru. Fe graddiodd gyda BA yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth. Mae wedi llywyddio Pwyllgor Pantycelyn a chymdeithas y Geltaidd (sef pwyllgorau’r Cymry Cymraeg) ers fod yn y Brifysgol. Mae wedi ymwneud a llawer o bethau wahanol fel myfyriwr gan gynnwys hybu’r Cymry Cymraeg i godi arian i elusennau, lle mae wedi codi bron i £300 i ddau elusen. Mae’n bwriadu lledaenu adenydd UMCA eleni trwy dechrau nifer o phrosiectau megis ‘UMCA yn y Gymuned’ (hybu myfyrwyr i weithio/gwyrfoddoli yn busnesi Cymraeg lleol) a hefyd ‘Gwyl Cymraeg UMCA’ (diwrnod i godi ymwybyddiaeth am yr iaith a’r ddiwylliant Cymraeg/Cymreig.